Mae CreuSbarc yn fudiad sy’n meithrin entrepreneuriaeth wedi’i hysgogi gan arloesedd yng Nghymru drwy ‘Alluogi busnesau Cymru i ennill a thyfu’n gyflym drwy eich cysylltu â'r unigolion mwyaf deallus yng Nghymru’.

CreuSbarc

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a dylanwadwyr allweddol ledled Cymru ac yn eu hannog i gydweithredu er mwyn creu ecosystem fwy Gweladwy, Syml a Chysylltiedig lle gall entrepreneuriaid ffynnu.

.

5 Stakehodler image - Welsh

 

 

CreuSbarc - y Cefndir

Yn 2015 ymunodd Cymru â 7 rhanbarth byd-eang arall i gymryd rhan mewn rhaglen 2 flynedd oedd yn cael ei darparu drwy Ysgol Reolaeth Sloan yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) a elwir y Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaeth Ranbarthol - neu REAP.     

Trwy REAP, cafodd Cymru gyfle i gydweithio â MIT a rhanbarthau eraill oedd yn cymryd rhan i ddatblygu strategaeth bwrpasol i roi entrepreneuriaeth sy’n seiliedig ar arloesedd wrth galon creu swyddi a chyfoeth. 

Mae model REAP wedi'i seilio ar wir ymgysylltiad ac aliniad rhwng pum grŵp rhanddeiliaid craidd, sef y llywodraeth, cyrff corfforaethol, academia, cyfalaf risg, a'r gymuned entrepreneuraidd.   Dyma yw sylfaen pob economi byd-eang llwyddiannus yn gyson. 

 

 

Dyma’r tîm Sydd wrth wraidd y mudiad


Cymryd Rhan

Os ydych chi’n entrepreneur, yn arbenigwr yn eich maes, neu os ydych chi am wireddu syniad, dyma’ch cyfle i gysylltu â phobl o’r un anian, rhannu’ch syniadau a’ch gweithgareddau a chwilio am gefnogaeth i’ch heriau. Cliciwch ar y botwm isod sy’n eich disgrifio chi orau a helpwch ni i greu gwell Cymru.

Chwilio am gymorth busnes nawr?

P’un ai bod gennych chi syniad am fusnes rydych am ei wireddu, bod gennych chi fusnes newydd neu eich bod am dyfu ac ehangu eich busnes, gall Creu Sbarc gynnig y cymorth sydd ei angen arnoch i ddyrchafu eich busnes i'r lefel nesaf. Creu Sbarc yw'r canolbwynt a'r pwynt cyswllt ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth yng Nghymru.