Drwy ymchwil sy’n torri tir newydd, mae byd academaidd Cymru yn ailddiffinio’r hyn sy’n bosib ym myd busnes ac yn llywio ffyrdd o weithio yn y dyfodol.

Gyda’r ymchwil gorau yn y byd yn cael ei gynnal gan sefydliadau addysgol Cymru, mae’r byd academaidd yng Nghymru yn ffynnu. Nawr, gyda dyfodiad CREU SBARC, dyma gyfle heb ei ail i Gymru adeiladu ar y gwaith rhagorol hwn. Trwy gyfuno ymchwil gydag arferion busnes arloesol, byd go iawn, gallwn helpu i greu mwy o raddedigion â chrebwyll masnachol a gwlad fwy llewyrchus.

Os ydych chi’n academydd mewn coleg neu brifysgol yng Nghymru, gall CREU SBARC eich helpu chi a’ch myfyrwyr. Os ydych chi am ychwanegu elfen fwy entrepreneuraidd i’ch sefydliad, denu’r israddedigion gorau neu sicrhau effaith fasnachol i’ch ymchwil, gall CREU SBARC eich helpu i gyflawni pob un o’r nodau hyn.