Mae Ashley Cooper eisoes wedi creu busnes refeniw gwerth £100 miliwn o ddim - nawr mae’n canolbwyntio ar rannu ei arbenigedd gyda’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Gyda’i angerdd am entrepreneuriaeth mor danbaid heddiw ag erioed, mae Ashley wedi dechrau ymwneud â REAP er mwyn eich helpu chi i ysgrifennu’ch stori lwyddiant bersonol.

Fel rhywun sy’n deall yn iawn y llwybr y mae’n rhaid i entrepreneur go iawn ei gymryd, mae Ashley Cooper yn llawn cyffro am botensial REAP i ddarparu arloeswyr a phobl fusnes yng Nghymru â’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i danio llwyddiant a lledu ffyniant.

Mae entrepreneuriaeth yng ngwaed Ashley. Roedd ei dad yn ŵr busnes llwyddiannus a fyddai’n aml yn dweud wrth ei fab y byddai ond yn creu’r dyfodol yr oedd e am ei gael drwy greu’r busnes yr oedd e am weithio ynddo.

Gwrandawodd ar gyngor ei dad, gan sefydlu ei gwmni cyntaf, TES Aviation - menter yn arbenigo mewn gwasanaethu injans awyrennau - ar ôl treulio wyth mlynedd yn dysgu ei grefft mewn dau gwmni mawr yn y diwydiant awyrennau. Ac fel dyn a oedd yn gwybod nesaf peth at ddim am redeg busnes yn y dyddiau cynnar, mae e wedi mynd ymhell.

Mae REAP yn herio meddylfryd pobl ac yn rhoi iddyn nhw’r gred y gallan nhw hefyd gyflawni rhywbeth ym mha bynnag faes sy’n mynd â’u bryd. Mae’n fwy na bod yn entrepreneur yn unig. Mae’n ymwneud â bod yn arloesol ac yn fentrus ym mhopeth a wnawn.

Fe wnaeth Ashley ddatblygu TES Aviation o fod yn fenter dau weithiwr i fod yn gwmni a gyflogai 160 o bobl, gyda throsiant o £100 miliwn a swyddfeydd ledled y DU, Asia a Gogledd America. And yng ngwir ystyr entrepreneuriaeth, pan roddodd y gorau i fod yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2014, ymddeol oedd y peth diwethaf ar ei feddwl.

Nôl at heddiw, ac mae Ashley’n gweithio’n galed yn Catalyst Growth Partners, cwmni buddsoddi mewn busnesau yng Nghaerdydd a gydsefydlodd i helpu entrepreneuriaid ar draws Cymru i sefydlu eu hunain a chyflawni eu potensial.

Yn rhannol, dechreuodd y cwmni newydd hwn yn sgil sylweddoliad y byddai mentor wedi bod yn amhrisiadwy yn y dyddiau cynnar hynny, pan oedd yn gyw entrepreneur yn llawn syniadau ond heb fawr o brofiad ymarferol.