Ydych chi’n entrepreneur profiadol? Oes gennych chi syniad am fusnes yr hoffech chi ei roi ar waith neu ydych chi’n arbenigwr yn eich maes sy’n chwilio am ffyrdd y gallwch chi chwarae eich rhan yn y gwaith o gefnogi entrepreneuriaid Cymru?

Cofrestrwch i ymuno â’n mudiad heddiw a helpu i greu ecosystem fwy Gweladwy, Syml a Chysylltiedig.

Byddem hefyd yn croesawu unrhyw newyddion/straeon sy’n ymwneud ag entrepreneuriaeth sydd gennych chi i rannu â ni yn ogystal ag unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu cynnal neu’n gwybod amdanynt sydd â’r nod o gysylltu â phobl eraill a’u hysbrydoli.

CHWILIO AM FANNAU AGORED

Mae gan Gymru nifer helaeth o amgylcheddau agored a chydweithredol i gefnogi ac i gynorthwyo entrepreneuriaid o'r un meddwl ar bob cam o'r broses gyflymu a thwf. Cliciwch yma i weld eich man agored agosaf.

Chwilio am gymorth busnes nawr?

P’un ai bod gennych chi syniad am fusnes rydych am ei wireddu, bod gennych chi fusnes newydd neu eich bod am dyfu ac ehangu eich busnes, gall Creu Sbarc gynnig y cymorth sydd ei angen arnoch i ddyrchafu eich busnes i'r lefel nesaf. Creu Sbarc yw'r canolbwynt a'r pwynt cyswllt ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth yng Nghymru.