Hygyrchedd

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan CreuSbarc.

Rydym ni’n awyddus i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:

  • newid lliwiau; lefelau cyferbynnedd a’r ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r ysgrifen gael ei gwthio oddi ar ymyl y sgrîn
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gyda dim ond y bysellfwrdd
  • symud o gwmpas o fewn y rhan fwyaf o’r wefan gyda meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gyda darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod iaith y wefan mor syml ac eglur i’w ddeall ag y bo modd.

Mae cyngor ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

 

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn ymwybodol bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • dim modd addasu uchder llinellau na llinelliad y testun
  • meddalwedd darllen sgrîn ddim yn gweithio’n llwyr gyda’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn

Os nad yw rhai rhannau o’r wefan yn hygyrch

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth oddi ar y wefan hon ar wahanol ffurf megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Ebost@ hello@bethespark.info

ffoniwch: 03000 6 03000

Fe ystyriwn eich cais a chysylltu gyda chi mewn 7 diwrnod.

 

Rhoi gwybod am broblemau wrth ddefnyddio’r wefan hon

Rydym ni’n awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon bob amser. Os byddwch yn gweld unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn teimlo ein bod yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni:  

Ebost: hello@bethespark.info

ffoniwch: 03000 6 03000

 

 

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd yr ymatebwn i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Cysylltu â ni dros y ffôn neu alw i’n gweld

Rydym ni’n darparu gwasanaeth Text Relay i bobl sy’n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.

Cysylltu â ni.

 

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae CreuSbarc ymroddedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau isod nad ydynt yn cydymffurfio.

 

Problemau cysylltiedig â thechnoleg

  • Dim modd i ddefnyddwyr addasu llinelliad y testun nac uchder llinellau.

Problemau gyda dogfennau PDF

  • meddalwedd darllen sgrîn ddim yn gweithio’n llwyr gyda’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn

 

Problemau gyda’r Cynnwys

  • URLs annilys;
  • Gwall o ran enw angor;
  • ‘Priodoledd teitl’ ar goll o’r Iframes i gefnogi defnyddwyr sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol;
  • Gwallau labelu’r tabl hygyrch;
  • Gwall cronni penawdau;

 

Problem gyda’r Templed:

  • Problemau gyda’r testun amgen ar gyfer delweddau;
  • Problemau cyferbynnedd lliwiau

Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd y wefan hon yn fwyaf diweddar ar 30 Iau 2020. Cynhaliwyd y prawf gan S8080.

Cynhaliwyd sgan wedi'w awtomeiddio ar gyfer bob gwall  WGAG2 AA.

 

Profwyd:

prif blatfform ein gwefan, ar gael ar bethespark.wales a creusbarc.cymru 

 

Gwaith cysylltiedig a gwell hygyrchedd

Pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud neu pan ychwanegir is-wefannau newydd, caiff y rhain eu sganio cyn eu rhyddhau i'r cyhoedd.

Bydd y gwelliannau a gynigir gennym er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a amlygir yn y datganiad hwn yn cael sylw erbyn mis Hydref 2020. Rydym yn gweithio gyda’r cyflenwr i fonitro a rhoi sylw parhaus i unrhyw broblem gysylltiedig â hygyrchedd a gyfyd yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu a diweddaru’r wefan.

Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020.