Mae naw o’r unigolion amlycaf o’r byd busnes a’r byd academaidd wedi dod ynghyd i sbarduno’r mudiad hwn – gan gynnig arweiniad sy’n ysbrydoli eraill er mwyn cyfuno gweithgarwch arloesol ac entrepreneuriaeth a gweddnewid Cymru yn gyrchfan gyda’r gorau yn y byd ar gyfer cwmnïau o bob maint.