Rheolir www.creusbarc.cymru, a adnabyddir fel CIC (Cwmni Buddiannau Cymunedol) Creu Sbarc, gan CIC CreuSbarc,y cyfeirir atynt fel ‘Ni’ isod. Drwy ymweld â’r wefan hon rydych chi fel defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Diweddarwyd y dudalen hon yn fwyaf diweddar ar 30 Mai 2019.
Gellir cysylltu â ni yn y cyfeiriad isod:
Wesley Clover Innovation Centre, Coed Coldra,
Casnewydd
NP18 2YB
Mae gwefan CIC Creu Sbarc ar gael i chi ei gweld a’i defnyddio i’ch dibenion personol. Mae ymweld â gwefan CIC Creu Sbarca’i defnyddio gyda’r telerau a’r amodau hyn yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn. Maent mewn grym o’r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan hon am y tro cyntaf.
Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon i ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn dull nad yw’n torri, yn cyfyngu ar nac yn atal hawl unrhyw drydydd parti i ddefnyddio a mwynhau’r wefan hon. Mae cyfyngu ar neu atal yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon neu a all aflonyddu neu achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw unigolyn, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol o fewn y wefan hon.
Fe’ch gwaherddir rhag postio neu drosglwyddo drwy gyfrwng y wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, difrïol, anweddus, sarhaus neu warthus, neu unrhyw ddeunydd sy’n gyfystyr ag ymddygiad a fyddai’n cael ei ystyried yn drosedd, sy’n debygol o arwain at atebolrwydd sifil, neu’n torri unrhyw gyfraith mewn ffordd arall. Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau sy’n gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn yn gyfreithlon i ni ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy’n postio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o’r fath ar y wefan hon.
Cysylltu â creusbarc.cymru
Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gynnwys dolen i’r wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn, ac nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu â CIC CreuSbarc. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â, neu’n cael ei chymeradwyo gan CIC CreuSbarc.
Pan fo ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau na’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt na dros unrhyw golled neu ddifrod a all godi o’ch defnydd ohonynt.
Defnyddio cynnwys creusbarc.cymru
Marciau masnachol CreuSbarc yw’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi CIC CreuSbarc. Ni chaniateir copïo na defnyddio’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti arall a gyrchir drwy’r wefan hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan berchennog yr hawlfraint berthnasol.
Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo CIC CreuSbarc at CIC CreuSbarc, e-bost hello@bethespark.info.
Ymwadiad
Darperir gwefan CIC CreuSbarc a’r deunydd sydd arni ‘fel ag y mae’, heb wneud unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, yn eglur neu’n ymhlyg, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, y gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben penodol, heb dor cyfraith, cydnawsedd, diogelwch, cyflawnrwydd a chywirdeb.
Nid ydym yn gwarantu nac yn honni y bydd y swyddogaethau o fewn y deunyddiau sydd ar gael ar y wefan hon yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod y wefan hon neu’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd o firysau neu’n cynrychioli cywirdeb, dibynadwyedd neu swyddogaeth lawn y deunyddiau.
Ni fyddwn, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw draul, colled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw draul, colled neu ddifrod o gwbl yn deillio o’r defnydd o ddata, neu golli’r defnydd o ddata, neu golli elw, a gyfyd oherwydd neu mewn cysylltiad â’r defnydd o wefan CIC CreuSbarcneu ddibyniaeth ar ei chynnwys.
Ni ellir sicrhau bod trosglwyddo unrhyw ddata dros y we yn gwbl ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei throsglwyddo i ni. Yn unol â hynny, trosglwyddir unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei throsglwyddo i ni ar eich menter eich hun. Nid yw gwefan CIC CreuSbarcyn cymryd lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr gael unrhyw gyngor proffesiynol priodol sy’n berthnasol i’w hamgylchiadau penodol.
Gall y deunydd ar y wefan hon gynnwys barn neu argymhellion trydydd parti, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn CIC CreuSbarc, nac yn arwydd o’i ymrwymiad i weithredu mewn modd penodol. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd a gyfyd mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.
Y Map Glasbrint
Yn ogystal â’r ymwadiad cyffredinol a nodir uchod, sylwer nad ydym yn gwneud unrhyw honiadau ynghylch cywirdeb neu ddibynadwyedd unrhyw wybodaeth, cynnwys na hysbysebion sydd wedi eu cynnwys ar, eu dosbarthu drwy, wedi eu lawrlwytho oddi ar a/neu wedi eu cysylltu â gwefan CIC CreuSbarc. Nid ydym yn gwarantu ansawdd unrhyw wasanaethau, cynnych na deunyddiau a arddangosir ar, neu a gysylltir â gwefan CIC CreuSbarc neu y gallwch chi eu prynu neu eu cael o ganlyniad i neu mewn cysylltiad â gwasanaethau, cynnyrch, gwybodaeth neu ddeunyddiau a arddangosir ar neu a gysylltir â gwefan CIC CreuSbarc. Chi sy’n gyfrifol am gynnal y gwiriadau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a gynigir gan fusnes neu wasanaeth sy’n ymddangos ar y Map Glasbrint yn bodloni eich anghenion penodol a/neu fod busnes wedi’i achredu’n addas a bod ganddo’r yswiriant priodol.
Nid ydym yn gyfrifol am gywirdeb, cyfreithlondeb na gwedduster y deunydd a gynhwysir ar wefannau sy’n ymddangos ar ein Map Glasbrint. Os ydych chi’n ystyried bod unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn amhriodol, yn anghyfreithlon neu’n dramgwyddus, cysylltwch â drwy anfon e-bost i hello@bethespark.info.
Rydym yn cadw’r hawl, fel y gwelwn yn ddoeth a heb unrhyw rwymedigaeth o gwbl, i ddiwygio neu ddileu enw unrhyw fusnes ar y rhestr neu i gywiro unrhyw wall mewn unrhyw ran o’r Map Glasbrint.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golledion y gallech eu dioddef, gan gynnwys unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli busnes neu elw neu unrhyw golled ariannol arall sy’n deillio o’ch defnydd o’r Map Glasbrintneu mewn cysylltiad â’ch defnydd ohono.
Y Gyfraith Lywodraethol
Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a gyfyd o dan y telerau a’r amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Diogelu rhag firysau
Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o’r broses gynhyrchu. Rhaid i chi ymorol yn eich ffordd eich hun nad yw’r broses yr ydych yn ei defnyddio er mwyn cael mynediad i’r wefan hon yn eich gwneud yn agored i’r risg o firysau, codau cyfrifiadur maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a allai niweidio eich system gyfrifiadurol chi eich hun. Mae’n ddoeth bob amser i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lawrlwythir oddi ar y we.
Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Amrywiad
Gallwn adolygu’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod yn ôl i’w darllen yn rheolaidd. Drwy barhau i ddefnyddio CIC CreuSbarc ar ôl i newid ddigwydd, rydych yn derbyn y newid.
Cyffredinol
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau hyn pan fo methiant o’r fath yn digwydd oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol. Os byddwn Ni yn ildio unrhyw hawliau a roddir i ni o dan y telerau a’r amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y caiff yr hawliau hynny eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall. Os bernir fod unrhyw rai o’r telerau a’r amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd gweddill y telerau a’r amodau’n parhau mewn grym llawn.
Cysylltu â gwefannau eraill
Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i ac o wefannau sefydliadau eraill. Dylem ei gwneud yn glir mai dim ond i’r wefan www.creusbarc.cymruhon yn unig (yr un yr ydych yn ei darllen) y mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol.
Dilyn dolen i wefan arall
Os byddwch yn mynd i wefan arall oddi ar yr un hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os hoffech chi wybod beth fydd yn digwydd i’ch gwybodaeth.
Dilyn dolen i creusbarc.cymru oddi ar wefan arall
Pan fyddwch yn dod i CIC CreuSbarc o wefan arall, mae’n bosibl y cawn wybodaeth bersonol amdanoch chi gan y wefan arall. Dylech ddarllen polisïau preifatrwydd gwefannau yr ydych yn ymweld â hwy sy’n eich cysylltu â CIC CreuSbarc os hoffech chi wybod am hyn.
Cysylltu â www.creusbarc.cymru
Mae CIC CreuSbarc yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gynnwys dolen i’r wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn, ac nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i wneud hynny. Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â, neu’n cael ei chymeradwyo gan, CIC CreuSbarc.
Pan fo ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hynny, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt na dros unrhyw golled neu ddifrod a all godi o’ch defnydd ohonynt.