Efallai eich bod yn cynnal neu'n gwybod am ddigwyddiad sydd â'r nod o gysylltu ac ysbrydoli pobl eraill ym maes busnes ac entrepreneuriaeth. Beth bynnag fo maint y digwyddiad, gall CreuSbarc helpu i'w hyrwyddo drwy ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
“Treuliwch amser â phobl sydd ag uchelgais, dyheadau a breuddwydion i'w gwireddu; mi fyddan nhw’n eich sbarduno i fynd ar drywydd eich rhai eich hun a’u cyflawni”
Mae'r bobl fwyaf arloesol a chreadigol yn ffynnu pan maen nhw yng nghwmni pobl o'r un anian. Mae digwyddiadau yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd, i gydweithio, i rannu syniadau ac i feithrin perthnasoedd sy'n gallu arwain at bethau gwych.
Defnyddiwch y lle gwag isod i roi braslun o'r digwyddiad rydych am ei rannu.
Cyn gynted ag y byddwch wedi cyflwyno eich digwyddiad, bydd un o'r tîm yn cysylltu’n ôl â chi yn fuan i drafod hyn ymhellach.