Gallwch ddefnyddio ffurflen gwneud addewid CreuSbarc i ddangos eich cefnogaeth i'r mudiad CreuSbarc ac i ddangos eich ymrwymiad i'r fenter Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru.  

Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter hon cliciwch yma.

 

Cefnogwch CreuSbarc

Mae addewid yn gallu bod yn unrhyw beth sy'n hybu entrepreneuriaeth neu ffordd entrepreneuraidd o feddwl, rhywbeth sy’n cysylltu unigolion o'r un meddwl ar draws unrhyw un o'r grwpiau rhanddeiliaid neu rywbeth mae eich sefydliad chi, neu chi fel unigolyn, wedi'i wneud a fydd yn sbarduno newid ac yn ysgogi pobl eraill.

Gall pawb yng Nghymru Greu Sbarc, dim ots pwy ydych chi, pa grŵp rhanddeiliaid rydych chi’n uniaethu fwyaf ag ef, neu p’un ai a ydych yn uwch arweinydd mewn sefydliad mawr neu bod gennych chi syniad ar gyfer ‘y peth mawr nesaf’. Mae pob ymrwymiad sy'n cael ei wneud yn cryfhau'r mudiad ac yn helpu Cymru i gymryd un cam arall tuag at y dyfodol.

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi wneud rhywbeth i hybu Creu Sbarc a helpu pobl eraill yn y mudiad, ewch amdani. Dyma rai enghreifftiau o addewidion:

  • Annog 10 unigolyn arall yn eich rhwydwaith i gofrestru ar gyfer Creu Sbarc
  • Cysylltu â 3 o bobl newydd yn eich grŵp rhanddeiliaid perthnasol
  • Cysylltu â 3 o bobl newydd y tu allan i’ch grŵp rhanddeiliaid chi
  • Dilyn a hyrwyddo Creu Sbar ar y cyfryngau cymdeithasol @creusbarc
  • Datblygu egwyddorion Creu Sbarc yn eich sefydliad neu ar eich rhwydwaith chi

Are you willing to make a pledge?

Your details
Accept policy
* A fyddech cystal â thicio'r blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen ac yn cytuno a'n Datganiad Preifatrwydd & Telerau ac Amodau.