Gyda ffrwydrad arloesedd a chreadigrwydd yng Nghymru, mae gan gyfalaf risg rôl ganolog i helpu i wireddu syniadau a gweledigaeth.

 

Mae Cymru yn frith o dechnoleg, meddyliau creadigol a doniau entrepreneuraidd, ac mae cyfalafwyr risg y genedl wedi gwneud cyfraniad pwysig tuag at feithrin y doniau hyn a sbarduno busnesau llwyddiannus. Mae cynhyrchion a gwasanaethau arloesol o Gymru yn aflonyddu marchnadoedd sefydledig - a gyda mynediad haws at gyfalaf risg, gellir rhoi hwb pellach i effaith arloesedd yng Nghymru.

Fel cyfalafwr risg, gallwch elwa ar CREU SBARC drwy ddod o hyd i bobl wych sydd â chynhyrchion a gwasanaethau sydd angen cyfalaf i’w gwthio ymlaen. Mae CREU SBARC yn llwyfan i entrepreneuriaid newydd yng Nghymru yn ogystal ag egin gwmnïau sydd â’r potensial i ddatblygu’n gewri busnes llwyddiannus byd-eang o Gymru.



Dyma’ch cyfle i gryfhau’ch portffolio gyda doniau ar garreg eich drws, defnyddio’ch sgiliau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes, darganfod y syniadau mawr nesaf a lledaenu ffyniant i bob cwr o’r wlad.