Mae’r byd corfforaethol wedi creu rhai o entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus Cymru ac mae ei rôl yn bwysicach nag erioed. Mae yna arloesi i’w weld ledled y rhwydwaith corfforaethol ac mae ysbryd entrepreneuraidd cadarn yn llywio cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Mae Cymru yn grochan o fusnesau mawr, BBaChau, entrepreneuriaid ac ymchwil arloesol. Os ydych chi’n gweithio mewn corfforaeth yng Nghymru, mae CREU SBARC wrth law i’ch helpu i rannu profiadau a syniadau gydag ystod amrywiol o bobl fusnes o’r un anian. Trwy gymryd rhan, cewch bopeth sydd ei angen arnoch i ganfod a manteisio ar gyfleoedd newydd er mwyn gwthio’ch busnes i’r lefel nesaf.

Trwy CREU SBARC, gallwch gael eich ysbrydoli gan amrywiaeth eang o straeon am lwyddo, nodi a chreu syniadau newydd, rhoi’r syniadau hynny ar waith gan greu eich cenhedlaeth nesaf o gynhyrchion a gwasanaethau, cydweithio mewn partneriaethau arloesol newydd, meithrin cysylltiadau a dechrau cynllunio ar gyfer eich cyfnod datblygu nesaf. Dyma’ch cyfle i danio fflamau’ch sefydliad ar gyfer y dyfodol.