Gyda’r adnoddau priodol, gall entrepreneuriaid ffynnu yng Nghymru a chreu mwy o fusnesau gwerthfawr a swyddi medrus.

Mae entrepreneuriaid yng Nghymru yn creu ac yn datblygu busnesau newydd, bywiog drwy’r adeg. Mae llwyddiant parhaus yr unigolion hyn yn hollbwysig i ledaenu ffyniant. Gyda thoreth o arweinwyr busnes, buddsoddwyr, academyddion, ymchwil a seilwaith, mae gan Gymru’r holl briodweddau sydd eu hangen i helpu entrepreneuriaeth i ffynnu.

Nawr, gyda chyflwyniad CREU SBARC, mae’r holl bethau hyn yn cael eu dwyn ynghyd i annog mwy o entrepreneuriaid yng Nghymru i ymuno â’r rhwydwaith hwn o arloeswyr, buddsoddwyr a doniau academaidd, er mwyn gweddnewid eu syniadau mawr yn gynhyrchion a busnesau eiconig y dyfodol.

Os ydych chi’n entrepreneur yng Nghymru, gall CREU SBARC roi’r sbardun sydd ei angen arnoch i roi hwb i’ch syniad neu symud pethau ymlaen i’r lefel nesaf. Trwy ymuno â’r mudiad hwn, cewch gyfle i gwrdd a chydweithio â phobl o’r un anian, cael eich ysbrydoli gan arweinwyr busnes gyda hanes o lwyddo a dod i gysylltiad â chyfalafwyr menter sydd am fuddsoddi yn syniadau mawr y dyfodol.

Dyma’ch cyfle i dorri tir newydd a chreu Cymru fwy ffyniannus.