Gyda chymaint o bethau’n digwydd yn yr ecosystem entrepreneuriaeth, mae’n gallu bod yn anodd sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gennych. Edrychwch yma i weld detholiad o’r pethau mwyaf cyffrous sy’n digwydd ledled y byd.
Cymryd Rhan
Os ydych chi’n entrepreneur, yn arbenigwr yn eich maes, neu os ydych chi am wireddu syniad, dyma’ch cyfle i gysylltu â phobl o’r un anian, rhannu’ch syniadau a’ch gweithgareddau a chwilio am gefnogaeth i’ch heriau. Cliciwch ar y botwm isod sy’n eich disgrifio chi orau a helpwch ni i greu gwell Cymru.
P’un ai bod gennych chi syniad am fusnes rydych am ei wireddu, bod gennych chi fusnes newydd neu eich bod am dyfu ac ehangu eich busnes, gall Creu Sbarc gynnig y cymorth sydd ei angen arnoch i ddyrchafu eich busnes i'r lefel nesaf. Creu Sbarc yw'r canolbwynt a'r pwynt cyswllt ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig ag entrepreneuriaeth yng Nghymru.