Women Tech Cymru Summer conference
Cynhelir cynhadledd haf Menywod mewn Tech Cymru yn adeilad eiconig yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda prif ddarlith gan Philippa Davies, angynhandledd, sesiwn panel ar sgiliau, a llinyn blasu technegol, dylai fod rhywbeth at ddant pawb.
Diolch i nawdd gan BCS Canolbarth Cymru, rydym yn gallu cynnig gweithdy Lego Roboteg i blant 6-16 oed, ochr yn ochr â'r gynhadledd. Bydd hyn yn cael ei oruchwylio gan weithwyr allgymorth profiadol o'r Clwb Roboteg Aberystwyth.
Mae'r diwrnod yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb (rydym yn croesawu pobl o bob genedigaeth), ond mae'n rhaid cofrestru. Os ydych chi eisiau prynu tocyn cefnogwyr i'n helpu ni, byddai hynny'n wych - mae gennym docynnau cefnogwyr ar wahanol lefelau.
Prifddarlith Philippa Davies: Dylunio ar gyfer Digidol
Mae creadigaeth digidol yn cynnwys dealltwriaeth dechnegol, seicoleg y defnyddiwr, sgiliau dylunio a chwarae tîm - ynghyd â phrofi ac ailbrofi. Yn y prifddarlith hon, bydd Philippa'n ein llywio trwy fformat dylunio y gellir ei ddefnyddio ar gyfer apiau, dysgu ar-lein, gwefannau a chreu e-lyfrau, ar gyfer unrhyw bwnc o gwbl. Bydd yn dadansoddi'r sgiliau allweddol sy’n gwneud cynhyrchion digidol effeithiol ac yn awgrymu ffyrdd o ddatblygu'r sgiliau hyn.
Mae Philippa yn seicolegydd a fu'n helpu i integreiddio JohnLewis.com i'r prif fusnes, yn rhedeg WordPress Users Wales, ac mae wedi bod yn aelod o dimau datblygu ap a rhwydwaith. Yn llysgennad STEM, bu'n dysgu am Gynghrair Meddalwedd Cymru ac mae wedi siarad am ei gwaith gwe cymunedol ar Facebook. Mae ei gwaith bob amser yn rhyngweithiol ac yn siriol.
Rhaglen / Program
10-11 Coffi ac Cofrestru / Coffee and registration
11-12 Prifddarlith / Keynote
12-12.30 Torri’r iâ / icebreaker
12.30-1 Angynhadledd & darlith tech / Unconference & Tech talks
1-2 Cinio / Lunch
2-3 Angynhadledd & darlith tech / Unconference & Tech talks
3-3.30 Coffi / Coffee
3.30-5 Sesiwn Panel / Panel session
Event Details
- Event date:
- Event time:
- Event location:
-
Old College Aberystwyth 6 King Street Aberystwyth SY23 2AY