BenignEye

Cynnyrch a ddatblygwyd drwy gydweithio yng Ngogledd Cymru.

Mae Tim Jones wedi gweithio yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru ac yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Glyndŵr i ddatblygu BenignEye, system monitro gyfrifiadurol sydd wedi’i dylunio i gefnogi pobl oedrannus agored i niwed sy’n byw ar eu pen eu hunain ac i roi tawelwch meddwl i'w ffrindiau a'u perthnasau. Cafodd ei ysbrydoli gan ei ddiweddar fam a oedd yn byw’n annibynnol ac yn fodlon profi’r BenignEye.

Mae’r system monitro ddeallus yn cynnwys crynodydd data a hwb cyfathrebu (DCCH) sy’n casglu gwybodaeth o ddyfeisiau monitro fel synwyryddion symudiad PIR, plygiau clyfar, switshis drws, synwyryddion tymheredd neu lifogydd a matiau pwysau ar gyfer y llawr neu gadeiriau. Mae’r rhain yn monitro symudiad yr unigolyn a gallant synhwyro os yw’r unigolyn yn codi’n hwyrach nag arfer, pryd bydd yn defnyddio'r tegell, os o gwbl, pryd bydd yn agor yr oergell, os yw wedi codi’n amlach nag arfer yn ystod y nos a hyd yn oed dymheredd yr ystafell.

Am ragor o wybodaeth