Cymru Arloesol: Technoleg Cymraeg 2050
26 April 2018
Mae 'Cymru Arloesol: Technoleg Cymraeg 2050' yn ddigwyddiad i ddathlu'r prosiectau technoleg arloesol sydd wedi derbyn cyllid fel rhan o'r grantiau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Cynhelir y digwyddiad yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd, gydag Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg yn bresennol.
Bydd pob prosiect yn rhoi arddangosiad byr o'u technoleg neu ap, gan roi cyfle i'r rhai sy'n mynychu profi pob un.
Mae'r prosiectau'n cynnwys -
- Dementia VR - creu profiad rhithwir Cymraeg i gynyddu dealltwriaeth unigolion o brofiadau’r rheini sy’n dioddef o ddementia.
- Ap Cwtsh - Ap i hyrwyddo iechyd a lles, e.e. myfyrio ac yoga.
- WordNet - prosiect i greu WordNet (cronfa ddata geiriadurol) ar gyfer y Gymraeg.
- Mapio Cymru - fersiwn Gymraeg o OpenStreetMap a fydd yn caniatáu mapio Cymru yn y Gymraeg o dan drwydded agored.
- Bys a Bawd - prosiect i droi llyfr poblogaidd “Caneuon Bys a Bawd” yn adnodd rhyngweithiol ar ffurf app.
- Wici Caerdydd - cynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg sydd ar gael ar Wikipedia, a phrosiect i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg trwy Snapchat.
Amseriadau digwyddiad -
2:30yp-3yp - Cyrraedd a the/coffi
3yp-5yp - Prif ddigwyddiad a sgyrsiau/arddangosfeydd gan y prosiectau
Sylw - mae hwn yn ddigwyddiad dwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd.
Event Details
- Event date:
- Event time:
- Event location:
-
Tramshed Tech, Pendyris Street, Cardiff CF11 6BH