Yr angen am newid: Dod yn ddiwydiant sydd â phrisiau tryloyw

Gan Kim Bird, sylfaenydd About the Funeral

Mae’r rhyngrwyd wedi newid popeth i ddefnyddwyr.  Gallwch wirio prisiau a siopa o gwmpas am ble, pryd a sut gallwch chi gael nwyddau neu wasanaethau am y pris gorau drwy gyffwrdd botwm neu symud eich bys ar draws eich ffôn.  Mae’r diwydiant manwerthu wedi arloesi’n sylweddol yn y maes hwn, boed hynny drwy hwyluso siopa all-lein/ar-lein, gwella gwasanaethau drwy sianelau ar-lein neu drwy gyfateb prisiau.  Ond pam mae anghenion a dyheadau defnyddwyr yn cael eu bodloni - a hyd yn oed yn cael eu rhagweld - mewn un maes, ond yn cael eu hanwybyddu bron mewn un arall? 

Mae’r diwydiant angladdau’n dra gwahanol i fanwerthu o ddydd i ddydd, ond mae’r ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth wrth graidd y ddau sector.  Mewn maes sydd mor emosiynol, bodloni anghenion pobl ddylai fod y brif flaenoriaeth. 

Y gwirionedd dychrynllyd yw fod cost gyfartalog angladd syml yn costio bron i £4,000.  Mae hynny’n gryn dipyn o wariant.  Petaech chi’n prynu rhywbeth arall fyddai’n costio cymaint â hyn - fel priodas, gwyliau neu gar - fyddech chi ddim yn meddwl ddwywaith cyn siopa o gwmpas.  Ac mae 85% o ddefnyddwyr yn disgwyl gweld prisiau angladdau’n cael eu cyhoeddi ar-lein* er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny.  Fodd bynnag, nid fel yna mae hi. Gan fy mod wedi gweithio fel trefnydd angladdau, ac wedi trefnu angladdau aelodau o’m teulu hefyd yn anffodus, rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun nad oes tryloywder o ran prisiau yn y diwydiant ar gyfer y rhai sydd wedi cael profedigaeth.   Bydd trefnwyr angladdau’n gwybod bod cwrdd â rhywun i drafod marwolaeth anwylyd yn gam mawr yn emosiynol; yn sicr nid yw’n rhywbeth y mae pobl am ei wneud dro ar ôl tro wrth geisio siopa o gwmpas.  Hefyd, rydych chi am gael y gorau i’ch anwylyd, ac efallai nad ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gallu dal yn ôl ar gostau neu gael eich gweld yn bod yn gynnil.  Rwyf wedi cael profiad o hyn o’r ddwy ochr.  Mae angen i’r diwydiant fod yn fwy arloesol ynghylch sut mae’n mynd i'r afael â thryloywder prisiau a sicrhau ei fod yn cefnogi’r rhai sydd wedi cael profedigaeth pan mae arnyn nhw ei angen fwyaf. 

Roedd yn frawychus darllen y stori ddiweddar am sut roedd trefnwyr angladdau wedi bygwth gwefan yn Awstralia ag achos cyfreithiol ar ôl i’r sylfaenydd esgus bod yn siopwr dirgel er mwyn cyhoeddi prisiau angladdau ar-lein. Fel diwydiant, pam maen nhw mor warchodol dros eu prisiau? Mae’r wefan cymharu prisiau About the Funeral yn fodel gwahanol i’r enghraifft hon o Awstralia. Dim ond prisiau trefnwyr angladdau sydd wedi cofrestru ar y wefan sy’n cael eu cynnwys, felly mae’n fanwl gywir.  Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi adolygiadau, sy’n ffordd i bobl fynd drwy’r ffeithiau sylfaenol ac yn darparu gwybodaeth oddrychol sy’n rhoi darlun llawn o werth y gwasanaeth.  Er hynny, rydyn ni’n cael rhai sy’n gwrthwynebu oherwydd eu bod yn erbyn cyhoeddi eu prisiau ar-lein.  Efallai eu bod yn ofni nad nhw sy’n cynnig y pris mwyaf fforddiadwy. Ond nid dim ond y fargen rataf sy’n bwysig am angladd. Mae’n ymwneud â’r gwerth gorau; cael pecyn neu wasanaeth sy’n iawn i’r teulu am bris maen nhw’n gallu ei fforddio, a hyd yn oed lleihau’r risg posib o drefnydd angladdau ddim yn cael ei dalu.  

I mi, nid dim ond bodloni galw’r defnyddwyr sy’n bwysig; mae’n ymwneud â’r cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom ni dros rywun sy’n dioddef colled.  Rwy’n gwybod, o brofiad, pan fyddwch chi wedi cael profedigaeth, nad oes gennych chi’r egni emosiynol i siopa o gwmpas.   Gallai pobl dalu mwy na’r hyn maen nhw’n gallu ei fforddio yn y diwedd oherwydd bod eu hemosiynau wedi cymryd drosodd eu gallu i fod yn graff - ac mae hynny’n arwain at ganlyniadau i’r diwydiant cyfan. 

Rwy’n falch bod y trefnwyr angladdau sydd wedi cofrestru ar gyfer About the Funeral yn fodlon trafod y neges hon, ac rwy’n credu’n gryf fod yr eiriolwyr hyn yn arwain at newid mawr hirddisgwyliedig i’r diwydiant. 

* Yn ôl arolwg ‘Funerals Matter’ YouGov 2016 a gomisiynwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau a Gofal mewn Galar Cruse.

About the Funeral:

Mae About the Funeral yn wefan cymharu prisiau ac adolygu, sy’n galluogi ymwelwyr i deilwra angladd i’w dymuniadau ac i gymharu trefnwyr angladdau o ran pris ac ansawdd eu gwasanaeth. Mae’r defnyddwyr wedyn yn gallu cysylltu â’r trefnydd angladdau ar ôl ystyried yr holl opsiynau, yn eu hamser eu hunain, a phan fyddan nhw’n abl yn emosiynol i wneud hynny. Yn ogystal â chymharu prisiau angladdau, mae About the Funeral hefyd yn cymharu costau cynlluniau angladd rhagdaledig.

Mae About the Funeral wedi lansio diolch i gymorth ariannol gan y gronfa fuddsoddi Ysbrydoli Cymru a chefnogaeth rhai o entrepreneuriaid gorau Cymru; megis sylfaenwyr y wefan cymharu prisiau GoCompare, gan gynnwys y Prif Weithredwr Hayley Parsons a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Marchnata, Kevin Hughes, sydd hefyd ar ei bwrdd. Mae’r gwaith yn mynd rhagddo nawr i gwblhau'r safle sy’n cynnwys cylchgrawn cynllunio angladd a chymorth mewn profedigaeth rhad ac am ddim, gyda chyngor arbenigol gan gwnselwyr, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol ac ariannol, yn ogystal â phobl sydd wedi goroesi profedigaeth.

Kim Bird:

Kim Bird yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr About the Funeral. Gyda chefndir ym maes gwerthu a marchnata TG, daeth Kim yn drefnydd angladdau 18 mlynedd yn ôl yn ogystal â gwirfoddoli gyda SCI, Dignity erbyn hyn, un o gwmnïau cynlluniau angladdau mwyaf y Deyrnas Unedig.  

Mae Kim hefyd yn aelod o’r Grŵp trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn aelod o’i phwyllgor Gofal mewn Galar Cruse lleol.  Mae hi hyd yn oed wedi cael cefnogaeth y Gwir Anrhydeddus Frank Field AS, Cadeirydd yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am y budd-dal taliad angladd sydd ar gael i’r rheini nad ydynt yn gallu talu am yr angladd mwyaf sylfaenol hyd yn oed.

Ffynhonnell: Brand Content -  http://brandcontent.co.uk/