Yn cyflwyno… Hacathon

A ydych chi’n chwilio am rywfaint o ysbrydoliaeth i gynllunio a threfnu eich Hacathon eich hun?

Wedi deillio o ddiwylliant uwch-dechnoleg yr UDA yn niwedd y 1990, mae’r Hacathon (a elwir weithiau hefyd yn wyliau hacio, dyddiau hacio, neu wyliau codio) bellach yn ddigwyddiad prif ffrwd; ac maent yn datblygu i fod yn gyfrwng i gydweithredu ymhlith pob math o sefydliadau i hybu arloesi a chreadigrwydd, ac maent bellach yn boblogaidd iawn yma yng Nghymru.

Rydym yn edrych yma sut mae’r hacathon wedi cael ei ddefnyddio gan randdeiliaid o fusnesau, y byd academaidd a llywodraeth yn ystod y 12 mis diwethaf.

Hacathon Arloesi mewn Chwaraeon 2017 (SPIN) – Sefydliad Hype a Phrifysgol Caerdydd

I nodi Rownd Derfynol UEFA Champions League ym mis Mehefin, bu Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â HYPE (sefydliad sy’n cysylltu a buddsoddi mewn arloesi mewn chwaraeon) i gynnal Rownd Derfynol SPIN Sefydliad HYPE 2017 – digwyddiad a ddenodd ddeg cwmni newydd o bob cwr o’r byd i’r brifddinas i gyflwyno’u syniadau i ffigurau blaenllaw o gwmnïau chwaraeon a thechnoleg, buddsoddwyd a phanel o feirniaid disglair:

•    Bernd Wahler, Cyn Brif Swyddog Marchnata Adidas a Llywydd VfB Stuttgart (Pennaeth y Rheithgor)
•    Yr Athro Laura McAllister, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd 
•    Guy Laurent Epstein, Cyfarwyddwr Marchnata, UEFA
•    Jamie Heywood, Amazon
•    Ignacio Mestre, Prif Swyddog Gweithredol, FC Barcelona Foundation
•    Stefan Wagner, SAP
•    Yr Athro James Skinner, Prifysgol Loughborough.

Roedd yr hacathon Arloesi mewn Chwaraeon (SPIN) yn digwydd cyn y digwyddiad, ac roedd yn gyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu syniadau eu hunain ar gyfer pêl droed ac i’w harddangos yn y gofod Arloesi mewn Chwaraeon.

"Mae arloesi’n chwarae rhan bwysig iawn mewn chwaraeon. Mae technoleg pêl droed yn esblygu’n barhaus, o gyflwyno technoleg y llinell gôl a chaeau artiffisial i ddatblygiad esgidiau pêl droed wedi’u hargraffu â thechnoleg 3D. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i’n myfyrwyr i gyflwyno’u syniadau gerbron panel unigryw o feirniaid rhyngwladol.”

Yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesi ac Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd 

Gallwch wylio fideo Hacathon SPIN HYPE/Prifysgol Caerdydd yma.


Hac Iechyd Cymru 2017 

Wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Sefydliad Bevan, ac ABCi (Gwelliant Parhaus Aneurin Bevan), bu Deoniaeth Cymru yn cynnal yr Hac Iechyd Cymru cyntaf yn y Ganolfan Gwyddorau Bywyd, Caerdydd, ym mis Mawrth.

Am ddau ddiwrnod, daeth 100 o hyfforddeion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill at ei gilydd gyda datblygwyr, dylunwyr a ffigurau o ddiwydiant o bob cwr o Gymru i ffurfio dyfodol datblygiadau technoleg iechyd.

Cafodd cyfanswm o 20 o syniadau eu cyflwyno i banel o arbenigwyr, gan gynnwys pennaeth arloesi iechyd Llywodraeth Cymru Ifan Evans; dirprwy gyfarwyddwr Comisiwn Bevan Christopher Martin; Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) Rhidian Hurle; Is-Ddeon Deoniaeth Cymru Ian Collings; a Phrif Swyddog Gweithredol Elidir Health Dyfan Searell.

Roedd y syniadau llwyddiannus yn cynnwys ap sy’n rhoi cyngor ar atal cenhedlu i famau newydd ac ap sy’n galluogi rhieni i gofnodi data meddygol allweddol o’u cartref. Enillodd dau blatfform gefnogaeth am eu defnydd arloesol o ddata; roedd un wedi’i ddylunio i wella’r trefniadau amseru ar gyfer apwyntiadau dialysis, a’r llall i ragweld pa gleifion sydd mewn perygl o fethu eu hapwyntiadau.

Mae’r syniadau i gyd yng nghamau cynnar eu datblygiad, a bydd pob un yn cael hyd at £7,500 o nawdd gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Bevan i hybu datblygiad prototeipiau cychwynnol.

“Cafodd Hac Iechyd Cymru ei ddatblygu i gysylltu’r cysyniad ‘diwrnod hacio’, sy’n fan cyfarfod ar gyfer syniadau, â’r strwythurau arloesi a chyllido traddodiadol sydd ar gael i brosiectau mwy aeddfed. Ein gobaith yw y bydd cysylltu’r ddau yn gallu grymuso’r sawl sydd ar reng flaen darparu gofal iechyd yng Nghymru i gredu os oes gennych chi syniad da, yna mi all pethau ddigwydd”.

Dafydd Loughran, Arweinydd prosiect Hac Iechyd Cymru a Chymrawd Arweinyddiaeth Glinigol

Ewch i gyfrif twitter @waleshack i weld sut hwyl gafodd y timau arni ac i gael rhagor o ysbrydoliaeth i drefnu eich hacathon eich hun.


Senedd Lab 2017: Creu Dyfodol Digidol ar gyfer Gwleidyddiaeth yng Nghymru

Ym mis Mawrth, cynhaliodd Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Senedd Lab – ei ddiwrnod hacio cyntaf i ymchwilio i sut y gallai arloesedd digidol wella'r ffordd y mae'r Cynulliad yn ymgysylltu â'r cyhoedd.

Daeth y digwyddiad 24 awr rhad ac am ddim â dylunwyr, codwyr ac arbenigwyr digidol ynghyd i gloddio'n ddwfn i'w wasanaethau, cynnwys a data, a datgloi ffyrdd newydd y gellid eu defnyddio i gysylltu â phobl Cymru.

Dechreuodd Senedd Lab yn anffurfiol yn y Pierhead ar nos Wener i'r rhai a oedd yn bresennol i gynnig heriau a ffurfio timau. Ar yr ail ddiwrnod gweithiodd pob grŵp ar eu prosiectau yn y Senedd. 

Dechreuodd y syniad buddugol fel "dangosfwrdd democratiaeth", o dan arweiniad y tîm yn Big Lemon Creative. Gallwch ddarllen rhagor am eu profiadau yma.


Dyddiau Hacio’r GIG

Mae Caerdydd yn un o’r canolfannau rheolaidd ar gylchdaith Dyddiau Hacio’r GIG.
Mae Dyddiau Hacio’r GIG yn dod â phawb sydd â diddordeb mewn technoleg gofal iechyd (gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a’u perthnasau, cynrychiolwyr elusennau) at ei gilydd i greu meddalwedd ymarferol i wella technoleg a gwasanaethau’r GIG.

Maent yn cael eu cynnal dros dri neu bedwar penwythnos y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ledled y DU, mae grwpiau’n ffurfio mewn ffordd naturiol ac maent yn cymryd rhan mewn sesiynau taflu syniadau, ac yna bydd syniadau’n datblygu, cyn iddynt gael eu rhoi gerbron panel o feirniaid. Bydd gwobrau fel arian, llechi a llyfrau gosod yn cael eu cynnig fel symbyliad i arloesi. 

Cewch ragor o fanylion am Ddiwrnod Hacio’r GIG ac i gofrestru ar gyfer Diwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd (a gynhelir fis Ionawr) yma. 

Diwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd 2015 

Yn Niwrnod Hacio’r GIG ym Manceinion 2017 

 

Hacathon 2017 – Diogelu Data Personol – Prifysgol Abertawe a Fujitsu

Ym mis Mawrth, cynhaliodd Prifysgol Abertawe hacathon menter 24 awr mewn cydweithrediad â Fujitsu er mwyn hyrwyddo menter ac arloesi. Rhannwyd 26 o fyfyrwyr i dimau ac roedd gan bob tîm fentor Fujitsu wrth law i'w helpu i ddatrys problem diogelu data mewn perthynas â thechnoleg y gellir ei gwisgo.

Cafodd pob un o'r myfyrwyr eitem o dechnoleg y gellir ei gwisgo o’u dewis i fynd gartref gyda nhw, yn ogystal â bathodyn cyflogadwyedd Fujitsu ar gyfer eu CV.

Ewch i weld sut hwyl gafodd y timau arni yma


Adnoddau 

Pecyn Cymorth Hacathon 
Os ydych chi’n chwilio am lasbrint i gynllunio eich Hacathon, mae’r ‘MIT Hacking Medicine Handbook’ yn arweiniad cynhwysfawr i’r hanfodion

A hoffech chi wybod beth sy’n digwydd yn y MIT Hackathon? 
Ar nos Sadwrn yn Cambridge, Boston, gall myfyrwyr ddewis o blith nifer o weithgareddau. Ym MIT, mae’r Hacking Arts—sydd â’r nod o sbarduno entrepreneuriaeth ac arloesi o fewn y celfyddydau creadigol—yn un ohonynt. 

OVO Energy – Hacathon 3.0 ‘From Insight to Innovation’
Dysgwch sut mae’r Cyflenwr Ynni o Fryste’n defnyddio Hacathon 24 awr i roi’r rhyddid i arloesi i’w dîm technoleg.
https://www.youtube.com/watch?v=1u-t_7yIlzA

A oes gennych chi brofiad o redeg Hacathon? Mi hoffem glywed gennych a rhannu eich profiad ag eraill sy’n rhan o’r mudiad. Defnyddiwch yr hashnod #BeTheSpark neu rhannwch eich stori â ni.