Techniquest yn pontio bwlch sgiliau STEM

Ers dros 30 o flynyddoedd, mae Techniquest wedi ceisio creu cyfleoedd gyrfaol diddiwedd i ieuenctid Cymru drwy ddarparu dysgu gwyddonol llawn dychymyg a diddorol.

Mae’r elusen addysgol flaenllaw, sydd wedi dod i chwarae rhan allweddol bwysig mewn ymgysylltu gwyddonol ym Mae Caerdydd, wedi croesawu mwy na dwy filiwn o ddisgyblion ac ysgolion drwy ei drysau yn ystod y tri degawd diwethaf.

Cyflwynir ei chyfuniad unigryw o weithgareddau cyfoethogi a 120 o arddangosfeydd, sy’n cadw at y cwricwlwm STEM diweddaraf, yn ei chanolfan sydd wedi’i hadeiladu i bwrpas a thrwy gyfrwng y rhaglenni allgymorth amhrisiadwy i ysgolion.

Diolch i’w hymrwymiad i hybu dealltwriaeth wyddonol, mae gan filiynau o blant ledled Cymru sgiliau i greu cyfleoedd gyrfaol dirifedi iddynt hwy eu hunain.

Fodd bynnag, gyda’r ffigurau yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos prinder clir yn y nifer sy’n dewis pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg ymhlith pobl ifanc, mae’r ganolfan addysgol yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol cyrraedd ac addysgu disgyblion, nawr yn fwy nag erioed.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Lesley Kirkpatrick, ei bod yn hanfodol parhau i gynnig darpariaeth ffres i ysgolion a phobl ifanc, nid yn unig i gefnogi eu cynnydd gyrfaol ond hefyd er lles diwydiant peirianneg Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd: “Mae gweithio gyda disgyblion i sicrhau eu bod yn cael yr addysg wyddonol ddiweddaraf sy’n llawn gwybodaeth yn rhywbeth rydyn ni bob amser yn ceisio ei wneud yn Techniquest.

“Rydyn ni’n asesu’r cwricwlwm STEM yn barhaus, i sicrhau ein bod yn cadw at yr hyn mae disgyblion yn ei ddysgu mewn ysgolion, i helpu i gadarnhau’r sgiliau a’r wybodaeth maen nhw’n eu dysgu.

“I ddarparu’r profiad difyrraf, rydyn ni hefyd yn creu gwersi allgymorth ar gyfer ysgolion ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau, y wybodaeth a’r gefnogaeth y mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo.

“Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni hefyd yn newid ein harddangosfeydd yn gyson ac yn cylchdroi digwyddiadau yn y ganolfan mewn ymgais i barhau i addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc i fynd i swyddi gwyddonol.

“Dyma pam rydyn ni wedi buddsoddi mwy na £190,000 yn ddiweddar mewn gwella ein cyfleusterau mewnol, darpariaeth y wefan, a’r arddangosfeydd rhyngweithiol.

“Yn y pen draw ein nod ni yw sicrhau bod pobl ifanc yn barod gyda’r sgiliau y mae arnyn nhw eu hangen nid yn unig i wella eu cyfleoedd, ond hefyd i sicrhau llwyddiant parhaus i ddyfodol y diwydiant STEM yng Nghymru.”

Mae eu cenhadaeth yn bwysicach nag erioed, oherwydd mae ffigurau diweddar yn dangos bod llai o fyfyrwyr yn dewis astudio pynciau STEM i Safon Uwch.

Ar hyn o bryd, dim ond tua 19% o ferched a 33% o fechgyn sy’n dewis un neu ddau bwnc STEM i’w hastudio i Safon Uwch ac, o ganlyniad, mae 40,000 o swyddi cysylltiedig â STEM yn cael eu gadael yn wag ar ôl graddio.

Dywedodd Ms Kirkpatrick: “Mae cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc ffynnu yn y diwydiant STEM. Gyda'r addysg a’r gefnogaeth briodol, fe allwn ni sicrhau bod disgyblion yn cael gwybodaeth ddigonol ac yn barod i fynd i mewn i swyddi sy’n rhoi llawer o foddhad, swyddi sydd nid yn unig o fudd iddyn nhw, ond i ffyniant economaidd Cymru hefyd.”