Sue Poole, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr, y Ganolfan Addysg Entrepreneuraidd (C4ee)

Bydd Sue Poole, Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Entrepreneuraidd (C4ee) yn cyflwyno’r fenter gymdeithasol a’i phrosiect newydd i addysgu sgiliau menter i blant 5 i 6 oed.

Nod y Ganolfan, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, yw helpu pobl ifanc yng Nghymru i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial.

Ein nod yw ysbrydoli meddylfryd mentrus ymhlith pobl ifanc, meithrin ymagwedd arloesol a chreadigol at fywyd a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau entrepreneuraidd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.  

Rydym yn defnyddio gweithdai pwrpasol, sesiynau rhyngweithiol, mentoriaid a chystadlaethau wedi’u cefnogi i ddatblygu sgiliau entrepreneuraidd a meddylfryd mentrus ymhlith plant a phobl ifanc rhwng 5 a 25 oed. 

Gan weithio gydag awdurdodau addysg, ysgolion a grwpiau cymunedol rydym yn rhannu arfer gorau ac yn eu helpu i wella neu ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd eu hunain a’u strategaethau ar gyfer pobl ifanc.

Gall y grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw amrywio - o ddarparu ar gyfer plant 5 mlwydd oed mewn Ysgolion Cynradd i gynnal digwyddiadau llawn cymhelliant ac ysbrydoliaeth sy’n canolbwyntio ar ferched, ond yr un yw’r neges. Drwy fod yn benderfynol, gallwch wneud beth bynnag a fynnoch!

Ein menter ddiweddaraf i bobl ifanc yw ‘The Bumbles of Honeywood’. Mae’r gyfres o 6 llyfr a’r rhaglen sgiliau a grëwyd ar gyfer disgyblion Ysgol Gynradd yn dilyn anturiaethau ‘The Bumbles of Honeywood’ - teulu o wenyn, sy’n meddwl am atebion mentrus arloesol i’w problemau o ddydd i ddydd yn Honeywood.

Lluniwyd y gyfres a’r rhaglen sgiliau mewn ymateb i Adroddiad Donaldson - a fydd yn gweld sgiliau menter yn cael eu hychwanegu fel elfen orfodol o gwricwlwm cenedlaethol Cymru ym mis Medi 2017. 

Yn sgil treialu’r gyfres mewn nifer o Ysgolion Cynradd ledled De Cymru, rydym yn bwriadu cyflwyno’r gyfres yn genedlaethol i sicrhau bob yr holl ddisgyblion yng Nghymru yn cael yr addysg fenter sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu potensial llawn. 

Caiff y gyfres o 6 llyfr a’r gweithgareddau menter cysylltiedig eu lansio i ysgolion a rhieni ym mis Medi, i gyd-fynd ag ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. 

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma neu dilynwch y datblygiadau ar Twitter @Bumblesof