Sue Poole, Cyfarwyddwr cwmni hyfforddiant entrepreneur C4EE, yn ennill gwobr BQ ‘Entrepreneur Newydd y flwyddyn’ i Gymru
23rd November 2017
Mae gwobr BQ Entrepreneur Newydd y Flwyddyn i Gymru wedi'i ddyfarnu i Sue Poole, Cyfarwyddwr cwmni hyfforddiant entrepreneur C4EE sydd wedi ei leoli yn Abertawe. Datblygodd Sue y fenter gymdeithasol sy'n gweithio gyda dros 4,500 o bobl ifanc mewn ysgolion ar draws De Cymru yn 2015.
Cyhoeddwyd enillwyr o 7 o ranbarthau'r DU yn y seremoni wobrwyo yn Newcastle ar 20fed Tachwedd. Wedi’w bweru gan banc Atom, mae'r gwobrau yn cydnabod y meddylfryd, brwdfrydedd a phenderfyniad sy'n ffurfio nodweddion gwir entrepreneur.
I ddarllen yr erthygl llawn cliciwch yma.