Simply Do Ideas yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i lansio Simply Link

Mae’r cwmni technoleg addysg Simply Do Ideas, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i lansio llwyfan digidol cyntaf y DU i alluogi prifysgolion a busnesau i gydweithio ar atebion busnes.

Mae'r llwyfan digidol cyntaf o’i fath erioed - Simply Link - yn mynd i chwyldroi sut mae sefydliadau a phrifysgolion masnachol yn gweithio gyda’i gilydd.

Bydd yn galluogi busnesau bach a chanolig, sefydliadau trydydd sector ac elusennau i ofyn am gymorth gan fyfyrwyr ar gyrsiau drwy’r brifysgol gyfan drwy lwyfan ar-lein.  Bydd yr heriau y bydd y busnesau’n eu postio yn cael eu neilltuo i dîm entrepreneuraidd yn y Brifysgol er mwyn asesu, dadansoddi a rhoi cyngor i fusnesau.

Bydd y fenter yn galluogi myfyrwyr i weithio ar faterion busnes go iawn, gan sicrhau eu bod yn dysgu ar yr un pryd â gweithio ar brosiectau byw a’u bod yn rhoi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar waith mewn amgylchedd masnachol er mwyn gwneud y mwyaf o'u profiad yn y byd go iawn. Yn gyfnewid am hyn, bydd busnesau’n manteisio ar y mynediad ehangach i’r byd academaidd ynghyd ag atebion strategol a chreadigol i broblemau.

Bydd myfyrwyr a busnesau’n dechrau defnyddio’r llwyfan ar-lein hwn, a ddatblygwyd gan Simply Do Ideas, y cwmni o Gymru, y tymor hwn.

Mae Simply Do Ideas yn amharwr technoleg addysg, sy’n cefnogi datblygiad a thwf egin syniadau busnes drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.  Mae’r llwyfan pwrpasol newydd, a gynlluniwyd ar gyfer Prifysgol De Cymru, yn dangos dull arloesol o ddarparu addysg fenter gan y naill bartner a’r llall.

Dywedodd Lee Sharma, sefydlwr a Phrif Swyddog Gweithredol Simply Do Ideas: “Mae llwyfan Simply Link yn fenter arloesol ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan ohoni.  Mae darparwyr addysg yn wynebu’r her oesol o sicrhau bod pobl ifanc yn barod i’r gwaith ac mae’r llwyfan newydd hwn yn gam cyffrous i drawsnewid sut y caiff hyn ei gyflawni gan greu cyfrwng effeithiol rhwng y byd addysg a diwydiant.

“Drwy ychwanegu materion busnes go iawn a byw at y cwricwlwm, rydyn ni’n ail-greu’r byd masnachol ac yn ymdrochi myfyrwyr ynddo. Y bwriad yw dod â doniau naturiol a meddylfryd creadigol at ei gilydd gyda busnesau. Yn y byd academaidd, gallwn fireinio’r potensial hwn i greu cenhedlaeth nesaf o bobl sy’n barod i weithio, yn gyflogadwy ac yn entrepreneuraidd a fydd yn helpu busnesau yn y DU i symud ymlaen i’r lefel nesaf”.  

Bydd Simply Link yn cael ei hyrwyddo ymhlith busnesau bach a chanolig, sefydliadau trydydd sector ac elusennau er mwyn annog y diwydiant cyfan i gymryd rhan.

Bydd y llwyfan newydd yn cael ei reoli gan Gyfnewidfa USW, ar gampws Pontypridd Prifysgol De Cymru, sy’n cynnig gwasanaethau i gefnogi busnesau newydd ac i helpu busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli i dyfu.  Mae Cyfnewidfa USW yn rhan o ymdrech y Brifysgol i gefnogi gweithgareddau entrepreneuraidd a busnesau newydd Cymru drwy ganolbwyntio ar gynyddu cyfraniadau busnesau bach a chanolig at yr economi, gan ddatblygu myfyrwyr â’r sgiliau perthnasol a gwella statws y Brifysgol fel sefydliad busnes.

Dywedodd Siwan Rees, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa USW: “Bydd datblygu’r llwyfan ar-lein newydd hwn gyda Simply Do Ideas yn darparu porthol ar-lein hawdd ei ddefnyddio i fusnesau er mwyn iddyn nhw ofyn cwestiynau am feysydd lle mae angen cymorth arnyn nhw.  Bydd y rhain yn cael eu neilltuo i dîm entrepreneuraidd yn y Brifysgol, a fydd yn cynnwys myfyrwyr ac yn cael ei gefnogi gan academyddion, i asesu a rhoi cyngor priodol.  Mae gennym ni fyfyrwyr yn gweithio gyda busnesau ledled De Cymru yn barod a bydd cyflwyno’r porthol yn ategu ac yn gwella ein gallu i gefnogi twf busnesau yn yr ardal, felly hefyd sgiliau a phrofiad ein myfyrwyr”.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfnewidfa USW a Simply Link, ewch i www.uswexchange.co.uk

Erthygl gwreiddiol ar USW exchange.