Sbarduno arloesi agored drwy gyfrwng diwylliant o gydweithredu
Mae arloesi agored yn cyflawni mwy i sefydliadau pan maent yn llwyddo i ddatblygu diwylliant o gydweithredu. Mae perthnasoedd cwbl gydweithredol gyda phartneriaid allanol yn galluogi sefydliadau i gynyddu eu harloesi, bod yn wahanol yn y farchnad ac arbed costau a bod yn fwy effeithlon.
Er hynny, mae cyflogeion yn gwrthwynebu cyflwyno arloesi agored yn aml, gan ei weld fel bygythiad i’w swyddi ac i fodelau ymchwil a datblygu traddodiadol. O ganlyniad, daw perthnasoedd gyda phartneriaid allanol yn rhyngweithredol ac mae’r ddau sefydliad yn methu elwa o’r gwir werth sy’n bosib o’r berthynas.
Bydd cadw at y canllawiau sydd wedi’u nodi isod yn sicrhau eich bod yn gallu meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth a chael y gwerth gorau posib o’ch partneriaethau allanol.
Hwyluso cyfathrebu agored
Mae arloesi agored llwyddiannus yn dibynnu ar gyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn effeithiol. Dylai systemau mewnol alluogi i dimau rannu gwybodaeth am bartneriaid a chreu rhwydweithiau. Rhaid i’r cyfathrebu gyda phartneriaid allanol fod yr un mor agored. Dylai perthynas gydweithredol a llawn ymddiriedaeth gyda phartner fod yn un agored, gyda gwybodaeth yn llifo’n rhydd rhwng ffiniau sefydliadol.
Creu arweinwyr ysbrydoledig
Mae cefnogaeth y tîm ar y top yn hanfodol os yw’r sefydliad am groesawu diwylliant mwy cydweithredol a rhaid i arweinwyr bennu strategaeth glir ar gyfer arloesi agored a dod â’r ymddygiad angenrheidiol i gefnogi cydweithredu yn fyw. Fodd bynnag, nid dim ond yr uwch arweinwyr ddylai fod â dylanwad - rhaid i reolwyr lleol deimlo bod ganddynt rym i greu partneriaethau newydd ac annog eu timau i wneud hynny.
Grymuso cyflogeion a chreu gallu mewnol
Mae arloesi agored yn ailbennu pob rôl draddodiadol - gan weld gwerth mewn pobl sy’n canfod atebion yn hytrach na’r rhai sy’n datrys problemau. Bydd hyn yn cymryd amser a bydd yn heriol i rai. Yn ogystal â gofyn i gyflogeion weithio’n wahanol, mae’n rhaid i chi hefyd eu grymuso drwy ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i feithrin sgiliau newydd. Hefyd bydd diweddaru proffiliau rôl ac amcanion perfformiad i adlewyrchu atebolrwydd adolygedig yn helpu cyflogeion i ddeall eu rôl newydd a gosod eu hunain yng nghanol y diwylliant cydweithredol.
Gwneud yn siŵr eich bod yn cyd-fynd
Er bod rhaid wrth amser i sefydlu diwylliant didwyll, gellir ei danseilio gydag un broses nad yw’n cyd-fynd. Rhaid i sefydliadau edrych y tu hwnt i’r defnyddwyr allweddol ar arloesi agored i sicrhau bod gan swyddogaethau cysylltiedig, gan gynnwys Caffael a Chyfreithiol, brosesau wedi’u haddasu i gefnogi’r diwylliant cydweithredol. Y nod yw i arloesi agored ddod yn flaenoriaeth bersonol i’r holl gyflogeion - bydd cael y sefydliad i gyd-fynd â’r strategaeth Arloesi Agored yn sicrhau bod hyn yn digwydd.
Cadw at y newidiadau
Yn olaf, rhaid i sefydliadau weithredu er mwyn sicrhau bod y diwylliant cydweithredol yn ‘glynu’ ac nad yw cyflogeion yn mynd yn ôl at eu hen ffyrdd o weithio. Rhaid iddynt ymgorffori gwerthoedd sy’n cefnogi Arloesi Agored; pennu targedau arloesi agored uchelgeisiol; mesur arweinwyr a rheolwyr ar sail eu hymddygiad cydweithredol a’u canlyniadau; a sbarduno newid drwy fecanweithiau rheoli perfformiad a gwobrwyo.
Mae gan arloesi agored botensial i roi mantais gystadleuol fawr i sefydliadau sy’n dymuno bod yn wahanol a sicrhau twf mewn hinsawdd economaidd anodd. Er bod sefydlu’r amodau sy’n galluogi i arloesi agored ffynnu’n gallu bod yn anodd, bydd dull PA o weithredu’n sicrhau bod eich sefydliad mewn gwell sefyllfa i elwa o weithio sydd wir yn gydweithredol.
Cynnwys drwy garedigrwydd PA Consulting