£100,000 i fusnesau newydd sydd â syniad a allai newid sut gall technoleg helpu pobl hŷn

Oes gennych chi syniad am fusnes newydd ar gyfer pobl hŷn?  Os felly mae Centrica yn awyddus i weithio gyda chi. 

Yn ôl Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, pan roddodd gipolwg ymlaen llaw o’i Gynllun Gweithredu Economaidd, mae poblogaeth sy’n heneiddio yn un o’r heriau mwyaf fydd yn wynebu Cymru dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Centrica Innovations yn lansio cronfa Her Heneiddio'n Egnïol, a bydd yn derbyn ceisiadau am wobr o £100,000. Mae’n gobeithio clywed gan fusnesau newydd sy’n awyddus i weithio mewn partner ag ef i fynd i’r afael â rhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu pobl hŷn - fel parhau i fod yn annibynnol, delio ag unigrwydd a problemau iechyd fel dementia.

Byddai’n wych gweld cwmnïau yng Nghymru yn cynnig syniadau - felly cofiwch roi’r si ar led y gallwn ni #CreuSbarc a gwneud i rywbeth ddigwydd yma.

Am ragor o wybodaeth a chyfle i fynegi diddordeb yn y gronfa, ewch i:

https://www.centrica.com/innovation/active-ageing-challenge