Pam mae’r sector technoleg eiddo yn barod am newid

Cyfweliad gydag Owen Derbyshire, Prif Swyddog Gweithredol Properr Software, sydd wedi creu Track My Move

Pam wnaethoch chi sefydlu Track My Move?

Maen nhw’n dweud fod trafodion eiddo’n achosi llawer mwy o straen na chael babi, priodi neu hyd yn oed drefnu gofal ar gyfer perthynas hŷn. Mae llawer iawn o hyn oherwydd bod y broses o brynu tŷ mor hen ffasiwn, ac oherwydd y nodweddion aneffeithlon sy’n codi’n naturiol pan fydd cynifer o bobl yn dibynnu ar nifer fawr o ddulliau cyfathrebu nad ydyn nhw’n electronig.

Fe wnes i sylwi ar hyn fy hun pan brynais i fy nhŷ cyntaf; cymerodd y broses fisoedd, sy’n hurt o ystyried nad oedd cadwyn. Roedd pethau’n cael eu dal yn ôl oherwydd gwaith papur a diffyg cyfathrebu rhwng pawb. Fe wnaeth i mi feddwl (ychydig yn naïf efallai) - mae’n rhaid bod yna well ffordd. Dyna pryd daeth Track My Move i fodolaeth.

Ydych chi’n credu bod y farchnad eiddo ar ôl yr oes o ran technoleg?

Mae’r farchnad eiddo gyfan wedi bod yn arbennig o araf yn sylwi sut gall technoleg helpu i wella’r broses. Mae’r ffordd rydyn ni’n trefnu morgais ac yn symud tŷ ar ôl yr oes go iawn. Rydyn ni’n dibynnu ar brosesau hen ffasiwn, yn syml, oherwydd mai dyma sut maen nhw wedi bod yn cael eu gwneud erioed. Byddai modd maddau hynny petai’n brofiad boddhaol i bawb, ond nid dyna fel mae hi.

Wedi dweud hynny, mae arwyddion fod pethau’n newid, ac mae hynny i’w groesawu. Ond mae’n bwysig bod y deiliaid a’r rhanddeiliaid presennol yn gweld technoleg eiddo fel cyfle yn hytrach na bygythiad.

Mae’r newid hwn i ddigidol yn cynrychioli newid sylweddol i’r ffordd y mae eiddo’n cael ei drafod yn y Deyrnas Unedig. Ond mae’n bwysig fod gwerthwyr tai a gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo’n sylweddoli nad yw hyn yn rhywbeth dychrynllyd, a’u bod yn cydweithio i achub ar y cyfle hwn. Fel arall, byddan nhw mewn perygl o ynysu’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethau hyd yn oed ymhellach.

Pam mae prynu tŷ’n cymryd cymaint o amser?

Does dim rheswm pam y dylai prynu tŷ gymryd cymaint o amser ag y mae. Rydyn ni’n credu y gallech chi leihau swmp y gwaith gweinyddol a’r gwaith papur yn broses ddeuddydd, yn hytrach na’r tri mis llafurus y mae pobl sy’n symud tŷ yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Beth sydd wrth wraidd y broblem rydych chi’n ceisio ei datrys gyda Track My Move?

Tryloywder. Mae’r diffyg tryloywder yn y broses o brynu tŷ yn achosi llawer mwy o straen i bawb dan sylw. Yn rhy aml, does gan bobl sy’n prynu tŷ ddim syniad sut mae pethau’n mynd, na beth fydd y cam nesaf.

Yn wir, y llynedd, y rheswm pam fod 25% o’r gwerthiannau a aeth yn ffliwt oedd oherwydd bod y prynwyr neu’r gwerthwyr yn credu nad oedd y broses yn symud ymlaen yn ddigon cyflym. Mae hyn, ar ei ben ei hun, yn costio £472m y flwyddyn i werthwyr tai mewn colli ffioedd.

Rydyn ni’n gobeithio datrys hynny.

Sut gall technoleg eiddo ddatrys hyn?

Mae nifer o ffyrdd y gall busnesau newydd gydweithio i wella’r broses i bawb dan sylw. Mae Track My Move yn borth un stop sy’n galluogi gwerthwyr tai, trosglwyddwyr a phrynwyr tai i gadw llygad ar sut mae’r broses o brynu eiddo’n dod yn ei blaen. Mae hyn yn cyflymu’r amser y mae’n ei gymryd i gwblhau yn sylweddol, gan arwain at lai o achosion o bethau’n methu a gwella cyfathrebu i bawb.

Mae dyddiau’r siop ar gau, y galwadau ffôn o bryd i'w gilydd a’r trafodion nad ydyn nhw’n dryloyw wedi hen fynd. Mae defnyddwyr y dyddiau hyn yn disgwyl tryloywder, gwasanaeth cwsmeriaid ar-alwad, effeithlonrwydd a darpariaeth ddigidol, ond mae’r byd eiddo wedi bod mor araf yn addasu i dechnolegau newydd.

Mewn gwirionedd, mae’r broses o brynu eiddo preswyl yn un llafurus ac aneffeithlon, a dydy defnyddwyr ddim yn fodlon derbyn hynny bellach. Ond gydag adnoddau’n brin a maint yr elw’n lleihau o hyd, yr her yw sut mae gwerthwyr tai’n gwella effeithlonrwydd, yn arbed ar adnoddau ac yn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf heb gyflwyno bil anferth sy’n dod gyda hynny fel arfer? Gall llwyfannau digidol sy’n dod i’r amlwg gyflawni'r holl bwyntiau hyn.

A fydd pawb sy’n gysylltiedig â’r broses yn elwa o hyn?

Bydd. Fel llwyfan, mae’n bwysig ein bod ni’n gallu ychwanegu gwerth i bawb. Yr her fan hyn yw bod pawb sy’n gysylltiedig â'r system yn disgwyl rhywbeth ychydig yn wahanol ohoni.

Yr un thema sy’n gyson yw effeithlonrwydd. Bydd proses gallach, a symlach yn gwella busnes gwerthwyr tai yn sylweddol. Mae porth gyda llif gwaith call sy’n grwpio tasgau ac yn blaenoriaethu trafodion allweddol, yn caniatáu i werthwyr tai fod yn rhagweithiol yn hytrach nag yn adweithiol, a bydd yn cael effaith enfawr ar y diwydiant. Yn ogystal, bydd gwneud defnydd gwell o’r cwmwl hefyd yn golygu y bydd dogfennau pwysig yn cael eu llofnodi a’u hanfon o fewn munudau, yn hytrach na gorfod dibynnu ar y post, sy’n achosi oedi pellach.

A yw hyn yn golygu y bydd gan werthwyr tai lai o waith i’w wneud?

Ar gyfartaledd, mae gwerthwyr tai yn treulio 7 munud ar bob eiddo, bob diwrnod, yn mynd ati’n rhagweithiol i symud ymlaen â gwerthiant. I bob pwrpas, mae hynny’n golygu bod gwerthwr tai cyffredin yn treulio 40 awr y mis yn mynd ar ôl bobl i geisio cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Drwy gynnwys prynwyr tai yn y broses a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn teimlo bod angen iddyn nhw gysylltu â swyddfa’r gwerthwr tai bob munud, a bydd hynny’n golygu bod y gwerthwyr tai’n gallu parhau gyda’u gwaith. Mae hyn yn sicrhau bod trafodion yn cael eu cwblhau’n llawer iawn cyflymach; wedi’r cyfan, fydd gwerthwyr tai ddim yn cael eu talu nes bydd pethau’n cael eu cwblhau. Felly, drwy gyflymu’r broses, maen nhw’n llai tebygol o ddioddef problemau llif arian.

Mae gwerthwyr tai sy’n defnyddio TrackMyMove yn gweld bod amseroedd trafodion yn lleihau, mae llai o bethau’n methu ac mae’n golygu gwell cyfathrebu i bawb.

Ydych chi’n credu y bydd Track My Move yn chwyldroi’r farchnad eiddo?

Mae’r defnydd integredig o dechnoleg yn rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd yn ganiataol mewn sawl maes. O newid cyflenwr trydan, i drefnu gwyliau neu brynu bwyd. Mae’r farchnad eiddo wedi bod yn araf yn derbyn y gall technoleg wella’r broses o brynu tŷ. Gyda broceriaid morgais a gwerthwyr tai yn dod i'r amlwg ar-lein, mae hyn yn dechrau newid yn ara’ deg.

Ond, er mwyn gwir symud y broses o brynu tŷ yn ei blaen, mae’n rhaid i ni fanteisio ar dechnoleg a’r rôl y gall ei chwarae wrth sicrhau bod prynu tŷ yn broses llawer iawn mwy hwylus a chyflymach i bawb. Does dim rheswm pam y dylai prynu tŷ achosi cymaint o straen â phriodi.

Yr hyn sy’n dda am fodelau busnes SaaS (Meddalwedd fel Gwasanaeth) yw bod y gost i'r defnyddiwr (yn yr achos hwn, gwerthwyr tai) yn sylweddol is nag y mae wedi bod yn y gorffennol, ac os yw’r cynnyrch wedi’i ddylunio’n dda, does dim angen fawr o hyfforddiant ar staff. Dylai cynnyrch meddalwedd da fod yn reddfol a dylai allu achub y blaen ar ymddygiad defnyddwyr, yn hytrach na gorfodi defnyddwyr i wneud y gwaith caled.

Ein prif heriau oedd addysgu’r rheini sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd, a hyrwyddo manteision ffyrdd newydd o weithio, sy’n gallu, ac sydd yn gwella’r broses i bawb dan sylw.

Mae’n naturiol i ddeiliaid fod yn dymuno osgoi risg, a bod yn amheus o newid, ond mae’n bwysig bod y rheini sy’n gweithio yn y sector yn gweld hyn am beth ydy o - cyfle, dim bygythiad. Gall addasu i newid fod yn ddigon i godi ofn ar rywun, ond does dim rhaid iddo fod yn anodd.

Os yw gwerthwyr tai yn ofni newid eithafol ar raddfa eang, dim ond os na fyddan nhw’n croesawu’r technolegau sydd ar flaenau eu bysedd ac yn dechrau addasu heddiw y bydd hynny’n digwydd. Mae modelau busnes fel ein un ni yn anochel, a gall gwerthwyr tai a phartneriaid arwain ar hyn, ond mae’n rhaid iddyn nhw ymuno â ni’n gynnar. Os byddwch chi’n petruso, mae’n bosib y bydd yr ymhonwyr ifanc yn achub y blaen arnoch chi yn y tymor-canolig. I ddyfynnu o gyfweliad diweddar gyda Mark Zuckerberg: "Mewn byd sy’n newid mor gyflym, y risg fwyaf yw peidio cymryd risg o gwbl."

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes yng Nghymru?

Rwy’n Gymro Cymraeg balch, felly fyddwn i ddim wedi ystyried sefydlu yn unman arall. Roeddwn i hefyd am brofi pwynt y gallwch chi ddatblygu busnes rhyngwladol llwyddiannus yr ochr hon i’r M4, ac mae’n braf gweld rhai o fusnesau mwyaf llewyrchus Cymru’n dathlu llwyddiant rhyngwladol erbyn hyn.

Treuliais nifer o flynyddoedd mewn busnesau newydd yng Nghymru ac o’u cwmpas, ac rwy’n frwdfrydig iawn dros y maes technoleg sy’n tyfu yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni i ddathlu Cymru fel lle gwych i gynnal busnes.

Mae’r costau byw isel, a’r mynediad hwylus at dalent a llywodraeth gefnogol yn golygu mai dyma’r lle perffaith i sefydlu busnes technoleg sydd am dyfu. Fyddaf i, yn sicr, ddim yn ystyried symud ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos.

Mae Track My Move yn borth un stop sy’n galluogi gwerthwyr tai, trosglwyddwyr a phrynwyr tai i gadw llygad ar sut mae’r broses o brynu eiddo’n dod yn ei blaen, ar bob dyfais, gan gyflymu’r amser ar gyfer cwblhau yn sylweddol.