Pam mae creu a meithrin meddylfryd arloesol ac entrepreneuraidd ymhlith pobl ifanc yn allweddol i Gymru

Mae gan blant ysgol yng Nghymru uchelgais fawr i fod y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid blaenllaw yn y DU, gyda bron dwy ran o bump o’r rhai rhwng 8 ac 16 oed yn dweud eu bod am fod ‘yn fos arnynt eu hunain’.

Er hyn, mae nifer o rwystrau i entrepreneuriaeth o hyd y mae angen mynd i’r afael â nhw.

Mewn erthygl ddiweddar a gyhoeddwyd gan Business News Wales, mae Mike Hayden, Pennaeth Bancio i Fusnesau Bach a Chanolig yn Barclays yn Ne Cymru yn galw ar y llywodraeth ac arweinyddion busnes i ddarparu’r adnoddau a’r offer cywir i alluogi pobl ifanc yng Nghymru i wireddu eu huchelgais a chreu mentrau busnes go iawn.

I ddarllen yr erthygl gyfan cliciwch yma.