NatWest yn lansio rownd newydd o gyllid cymunedol gwerth £1m

Lansiwyd Cronfa Sgiliau a Chyfleoedd NatWest am y tro cyntaf ym mis Mai 2015, ac mae wedi rhannu £6.25m o gyllid i gefnogi prosiectau yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.  

Gwahoddir ceisiadau erbyn dydd Gwener 22 Medi 2017 gan sefydliadau dielw. Mae hyn yn cynnwys elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol ac ysgolion a cholegau sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth sy’n helpu pobl mewn cymunedau difreintiedig i ddatblygu, creu neu gael gafael ar y sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gallu ariannol neu i ddechrau neu ddatblygu busnes newydd. 

Pan fydd yr holl geisiadau wedi cael eu hadolygu gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr Rhanbarthol, bydd rhestri byr rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Gronfa. Yna, bydd y cyhoedd yn cael pleidleisio dros eu hoff achosion ym mhob ardal er mwyn helpu’r Byrddau Rhanbarthol i benderfynu ar yr enillwyr.  

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno cais, neu ydych chi’n gwybod am sefydliad a allai fod â diddordeb? Mae’r manylion llawn, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd ar gael yn http://skillsandopportunitiesfund.natwest.com