NatWest yn lansio Back Her Business yng Nghymru

Rydyn ni’n falch o gefnogi lansiad menter ddiweddaraf NatWest mewn partneriaeth â Crowdfunder UK.

NatWest Back Her Business

Mae NatWest wedi ymrwymo i gefnogi mwy o ferched i gychwyn busnesau ledled Cymru a thu hwnt. Cyhoeddodd yn ddiweddar ei fod yn mynd i lansio Back Her Business - mewn partneriaeth â Crowdfunder UK. Gyda’i gilydd, byddant yn helpu merched sy’n entrepreneuriaid i godi arian i helpu i wireddu eu syniadau busnes drwy gyllido torfol, hyfforddiant am ddim, mentora a chyfleoedd i gwrdd ag unigolion uchelgeisiol sy’n rhannu’r un meddylfryd â nhw.  

At hyn, maen nhw hefyd yn cynnig cyllid grant o hyd at 50% o’ch targed codi arian (uchafswm o £5,000) ar gyfer rhai prosiectau llwyddiannus. Darllenwch fwy am sut mae hyn yn gweithio drwy glicio yma.

Mae lansiad ‘Back Her Business’ yn ategu menter Llywodraeth Cymru, ‘Cefnogi Merched Entrepreneuraidd yng Nghymru’ sy’n hyrwyddo twf cynhwysol ac yn meithrin cyfleoedd gyda’r bwriad o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, yn ogystal â chreu’r amgylchedd cywir ledled Cymru i ferched sy’n entrepreneuriaid allu tyfu a llwyddo. 

I gael rhagor o wybodaeth am y fenter hon a sut gallwch chi chwarae eich rhan, cliciwch yma.