Mae'r broses ymgeisio ar gyfer Busnes Symudol Newydd Gorau Prydain - sy'n cael ei bweru gan KPMG Tech Growth - yn agored yn awr

Mae'r broses ymgeisio yn agored yn awr ar gyfer cystadleuaeth KPMG Tech Growth 2018.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i hyrwyddo eu busnes gerbron panel o feirniaid mewn digwyddiadau yn Llundain, Manceinion, Birmingham a Bryste. Bydd enillwyr y digwyddiadau rhanbarthol yn cael eu hedfan i Gyngres Symudol y Byd (MWC) yn Barcelona y flwyddyn nesaf ar gyfer y rownd derfynol fawreddog, lle byddant yn cyflwyno gerbron panel o arbenigwyr byd-eang ar y diwydiant i gael eu coroni’n Fusnes Symudol Newydd Gorau Prydain 2018.

Bydd yr enillwyr hefyd yn cael stondinau arddangos yn y gynhadledd 4YFN nesaf er mwyn arddangos eu busnesau i gynulleidfa ehangach.

Mae'r gystadleuaeth yn gyfle i fusnesau technoleg o Brydain godi eu proffil a chael mynediad at gyfleoedd buddsoddi, cysylltiadau corfforaethol a’r 100,000 o bobl sy'n mynd i Gyngres Symudol y Byd.

Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i wefan Busnes Symudol Newydd Gorau Prydain