Mae’ch Gwlad Eich Angen Chi! A gall Alacrity eich helpu i gyrraedd yno!

Dyma Wil Williams, Prif Weithredwr Alacrity Foundation UK yn cyflwyno ei raglen i raddedigion, sy’n anelu at greu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ym maes technoleg yng Nghymru. 

Mae Alacrity Foundation (UK) yn elusen addysgol unigryw wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, De Cymru, ac yn rhan o fudiad byd-eang Alacrity. Mae Alacrity byd-eang yn anelu at adeiladu busnesau newydd. Yn Alacrity Foundation (UK) rydym yn anelu nid yn unig at adeiladu busnesau newydd, ond yn gobeithio hefyd y byddwn yn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ym maes technoleg yng Nghymru. Wrth galon yr hyn a wneir gennym yng Nghasnewydd y mae denu graddedigion o'r radd flaenaf i ymuno â’n rhaglen ddwys sy’n cael ei gyrru gan fentoriaid.  

Mae Alacrity yn unigryw hefyd yn nhermau Creu’r Sbarc gan ei bod yn pontio’r gagendor rhwng academia ac entrepreneuriaid. Mae rhaglen y Sefydliad, sydd wedi bod yn gweithredu’n llawn ers 2013, yn brofiad dysgu cymwysedig wedi’i leoli mewn ymarfer entrepreneuraidd byw.  

Yn ystod y rhaglen rydym yn cynnig y canlynol i’n hentrepreneuriaid graddedig - hyfforddiant busnes ymarferol, sgiliau meddalwedd drwy fentora fel y gallant ddatblygu a mireinio'u gwybodaeth, eu sgiliau a’u galluoedd entrepreneuraidd. Rydym yn denu ein hentrepreneuriaid graddedig o ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys: gwyddoniaeth; peirianneg; mathemateg, technoleg; a busnes. Byddwn yn recriwtio aelodau’r rhaglen ar sail gallu technegol a phersonoliaeth. Rydym yn disgwyl i’n graddedigion technegol ddangos medrusrwydd fel datblygwyr meddalwedd. Rydym yn sylweddoli y gall llawer o’n graddedigion wneud cais i ymuno â’r rhaglen gyda lefel sylfaenol o ddealltwriaeth o godio, os yw hyn yn wir, bydd y Sefydliad yn rhedeg bŵt camp technegol (codio) am bedair i chwe wythnos er mwyn dod â’n timau i fyny i safon lle gallant gychwyn arni ar unwaith.

Nid yw gallu technegol neu gefndir ym myd busnes, ar eu pen eu hunain yn ddigon i ennill lle ar y rhaglen. Rydym yn ceisio graddedigion sy’n gallu dangos tystiolaeth o wytnwch, elfen allweddol sy’n rhan o adeiladwaith entrepreneur llwyddiannus. Gall gwytnwch ddod i’r amlwg mewn sawl ffordd. Mae rhai o’n hentrepreneuriaid wedi bod yn ymwneud yn flaenorol â chwmnïau newydd, eraill wedi dangos y math o gryfder sydd ei angen ar entrepreneur yn eu cyflawniadau addysgol neu eu bywyd personol.  Mae gofyn i bob un o’n graddedigion feddu ar ymroddiad i waith caled.  Daw pobl heb y cryfder hwn i’r amlwg yn fuan iawn ar raglen sy’n galw am ymrwymiad llwyr a chyfan gan y cyfranogwyr.   

Yn ystod y rhaglen, telir tâl blynyddol di-dreth o £1,500 y mis i’r graddedigion. Rydym yn ffurfio timau o raddedigion sy’n gweithio ar brosiectau sy’n galw am atebion ar sail technoleg sy’n mynd i’r afael â materion go iawn ar gyfer sefydliadau. Drwy hyn, bydd y graddedigion yn datblygu eu gallu i weithio fel aelodau o dimau effeithiol ac yn aeddfedu’n gyflym yn ystod y rhaglen. Mae’r dull gweithredu ar sail galw a fabwysiadwyd gan y rhaglen yn cael ei gefnogi gan raglen fentora o safon byd sy’n defnyddio arbenigwyr diwydiant ac arbenigwyr pwnc. Bydd y mentoriaid yn gweithio gyda graddedigion i ddatrys problemau gwirioneddol. Mae pob agwedd ar y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatrys materion gwirioneddol ym myd busnes ac adeiladu busnesau cynaliadwy, graddadwy yng Nghymru. Yn ogystal â rhaglen y Sefydliad, gall timau llwyddiannus ymgorffori a chael mynediad at hyd at £250,000 y cwmni o gyllid sbarduno.  Rhaid i gwmnïau fod wedi’u lleoli yng Nghymru ac mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’n hentrepreneuriaid graddedig fod wedi ymrwymo nid yn unig i’w cwmnïau ond hefyd i genhadaeth ganolog y Sefydliad - sef cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid uwch-dechnoleg ar gyfer Cymru.  

Ers corffori’r cwmni cyntaf o Alacrity ym mis Rhagfyr 2014, mae’r Sefydliad wedi darparu cyllid sbarduno ar gyfer chwech o gwmnïau (gydag un arall ar y gweill), pob un ohonynt yn fyw ac iach!

Yng nghyd-destun cwmnïau newydd seiliedig ar dechnoleg bydd graddedigion yn dysgu sgiliau entrepreneuriaeth sylfaenol sy’n cael eu gyrru gan arloesedd, megis: canfod cwsmeriaid; cynhyrchu atebion i gwsmeriaid; caffael cwsmeriaid; mesur gwerth ariannol cynnyrch; dylunio ac adeiladu cynnyrch; a chodi graddfa eich busnes.  

Nid yw entrepreneuriaeth yn rhywbeth i bawb ac mae entrepreneuriaeth mewn amgylchedd seiliedig ar dechnoleg yn golygu rhai pwysau unigryw. Mae’r rhaglen yn un anodd ond mae’r profiad dysgu yn rhoi boddhad eithriadol. Gall yr enillion fod yn ariannol, ond yn bwysicach na hynny, bydd yr unigolion sydd wedi ymgysylltu â’r rhaglen yn ymgymryd â rhaglen unigryw o astudio cymwysedig sy’n newid eu bywyd.  Rydym angen graddedigion technoleg sy’n gallu cynhyrchu cynnyrch o’r ansawdd gorau.  Rydym angen graddedigion gyda phen busnes er mwyn cyflawni cynnyrch hyfyw yn fasnachol ac adeiladu busnesau graddadwy. Rydym angen unigolion sy’n gallu gweithio fel tîm ac sy’n meddu ar wytnwch.  

Gydol y rhaglen bydd timau ac unigolion yn cael eu profi ond bydd hyn yn digwydd o fewn amgylchedd dysgu cefnogol ac adeiladol lle y bydd camgymeriadau a methiant yn cael eu disgwyl. Mae’n angenrheidiol gweithio fel aelod o dîm. Mae hyn yn galw am lefelau llawer uwch o empathi, dealltwriaeth a chydweithio nac y bydd llawer o raddedigion â phrofiad ohono yn y gorffennol. Fel ym myd busnes, nid oes gwarant o lwyddiant ar y rhaglen. Bydd yn rhaid i entrepreneuriaid o raddedigion fod yn hyblyg gan nad oes algorithm ar gyfer llwyddiant gyda rheolau pendant i’w dilyn. Bydd y dysgu yn broses ailadroddus lle nad oes sicrwydd am ddim byd. Os ceir llwyddiant, bydd graddedigion yn dysgu’n fuan iawn mai dros dro yn unig y mae ei henillion. Un o nodau allweddol y rhaglen yw i dimau gynhyrchu  sefydliadau sydd ddim yn fregus ac sy’n cryfhau pan wynebant broblemau, methiannau, ansicrwydd a phethau annisgwyl. Mae rhaglen y Sefydliad yn galw am raddedigion a all wrando ar gyngor a’i werthuso a bod yn atebol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd. Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i raddedigion gamu allan o’u meysydd cyfarwydd. Mae’r Sefydliad eisiau denu pobl frwdfrydig, graddedigion sy’n hynod frwd, efengylaidd bron, dros achos, cynnyrch a chwmni eu tîm.  

Yn gynyddol, y mae timau a chwmnïau Alacrity yn defnyddio’r rhwydwaith unigryw a ddarperir gan y mudiad Alacrity. Mae gan bob aelod o’r rhwydwaith byd-eang strwythur ychydig yn wahanol ond mae ganddynt oll yr un nod - adeiladu cwmnïau newydd llwyddiannus. 

I ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid  uwch-dechnoleg yng Nghymru rhaid i ni gynnwys pob rhanddeiliad yn yr ecosystem entrepreneuraidd. Mae Alacrity eisoes yn sbarc ac rydym yn gobeithio y gallwn ymgysylltu â chi yn y mudiad.  

Mae Alacrity yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer y sbarc entrepreneuraidd nesaf ac os oes gennych chi syniadau, disgyblaeth a brwdfrydedd tuag at ddatrys materion yn y byd go iawn, ewch ati i ymgeisio nawr! Os ydych chi neu unrhyw un y gwyddoch amdano â diddordeb mewn ymuno â’r rhaglen, dod yn fentor neu hyd yn oed awgrymu prosiect y gallai un o dimau'r rhaglen weithio arno, ewch i ymweld â’n gwefan.