Mae trosedd yn cael ei Ddatrys yn M-SParc

Gwelodd yr Hac Heddlu yn M-SParc arloeswyr a datblygwyr syniadau yn dod ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru am y tro cyntaf, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag atal troseddau gwledig cyffredin.

MSparc team - hackathon

Digwyddiad mewn partneriaeth rhwng M-SParc a Heddlu Gogledd Cymru oedd yr Hac Heddlu. Cysylltodd PC Dewi Evans, o'r Tîm Troseddau Gwledig, â M-SParc gyntaf i ofyn am gymorth ym mis Awst. “Mae’r gwaith hwn yn rhan o brosiect Future Farms Cymru gan Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru, sydd â’r nod o annog defnyddio technoleg ddiogelwch soffistigedig ar ffermydd i helpu i ddatrys troseddau gwledig. Fe wnaethon ni ddewis canolbwyntio ar dair trosedd roedden ni'n meddwl y gallai pobl helpu gyda nhw; Lladrad beic cwad, torri i mewn i adeiladau allanol, a dwyn moduron allfwrdd.

Ar ôl gweld help M-SParc yn helpu cynnal Hac Iechyd Cymru ddwywaith eleni eisoes, roeddem yn gwybod y gallent ein helpu i gyrraedd yr arloeswyr a allai ddod o hyd i atebion inni. Yn ogystal â gwobr ariannol, bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i arddangos eu datrysiadau a'u treialu ar y ffermydd arddangos."

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Gwener yr 16eg o Dachwedd, gyda 9 datrysiad ar gyfer gwobr ariannol o hyd at £3,250 do arian diolch i noddwyr M-SParc, Heddlu Gogledd Cymru, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru, FUW a NFU.

Agorodd Carl Foulkes, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, y digwyddiad. “Mae hwn yn ddigwyddiad arloesol y gobeithiwn y bydd yn arwain at gyflwyno offer a dulliau newydd i ymladd lladradau ledled ein rhanbarth a thu hwnt, ac yn helpu i wneud Gogledd Cymru yn rhan fwyaf diogel y DU.”

Cyflwynwyd syniadau gan fyfyrwyr, arloeswyr a chwmnïau yn y rhanbarth, a dewiswyd pedwar enillydd.

Baglu Rhywun – Dan Bates a Lee Hughes

Mae Dan Bates yn arbenigo mewn Electroneg ac wedi gweithio am 5 mlynedd gyda Open Energy Monitor.

Mae Lee Hughes yn arbenigwr Rhwydwaith, sy'n cwmpasu Pensaernïaeth Rhwydweithio, Diogelwch a Datrys Problemau, ac ar hyn o bryd yn adeiladu robotiaid ffermio i'w defnyddio mewn amaethyddiaeth effaith isel.

Mae'r ddyfais ddiogelwch yn defnyddio magnet, ac yn hysbysu perchnogion mewn amser real trwy synwyryddion dirgryniad os yw'r ddyfais yn cael ei symud. Mae hefyd yn darparu olrhain lleoliad amser real, ac mae'n ddyluniad wedi'i chreu yn arbennig i'r Hac. Mae potensial i'r ddyfais hon helpu i atal pob un o'r tair trosedd.

 

Curiad – Wyn Griffiths a Rob Shepherd

Mae Wyn yn dechnegydd dylunio, ac mae Rob yn arbenigwr rhwydwaith ac electroneg, gydag arbenigedd mewn Rhyngrwyd Pethe. Mae’r ddyfais yn defnyddio trosglwyddydd LoraWAN a’r nifer cynyddol o ‘byrth’ yn y rhanbarth, gan drosglwyddo ‘curiad calon’ sy’n hysbysu lladrad mewn amser real, yn darparu stamp amser digwyddiad, ac yn nodi cyflymder a chyfeiriad teithio. Ar gyfer dwyn quadbike, ac ar gyfer dwyn eitemau mawr a drud o adeiladau allanol, nodwyd y ddyfais hon fel ateb hyfyw iawn ar gyfer lleihau'r ffenestr amser ac felly'r oriau pobl sy'n ofynnol i ymchwilio pryd a sut y digwyddodd trosedd.

Gary Smith

Mae Gary yn gobeithio datblygu ei ddatrysiad yn gyflym er mwyn darparu datrysiad cyflym a hyfyw. Mae'n cynnwys olrhain tagiau RFID, gan ddechrau o ystod synhwyro 10m, sy'n gweithio i bob pwrpas fel larwm drws siop - unwaith y bydd beic cwad, modur allfwrdd, neu ddyfais arall yn mynd trwy'r synwyryddion, hysbysir y ffermwr. Fe gynghorwyd y byddai'r ddyfais hon yn arbennig o addas ar gyfer lladradau moduron allfwrdd, gan fod y fynedfa trwy'r doc fel arfer yn gyfyngedig ac yn caniatáu lleoliad addas i'r synwyryddion gael eu gosod. Bydd Gary yn rhoi peth o'r wobr ariannol i YANA, elusen sy'n darparu help i'r rheini sy'n ymwneud â ffermio a busnesau gwledig eraill sydd wedi'u heffeithio gan straen ac iselder.

Y Bugail Bodlon – Rhydian Williams

Syniad Rhydian yw atal ffermwyr rhag dibynnu ar allweddi a chloeon traddodiadol. O Ben Llyn, a chyda diddordeb brwd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, roedd Rhydian eisiau rhoi gwên ar wynebau pobl gyda'i ddatrysiad - tag RFID a fyddai'n cael ei roi yn hwelington y ffermwyr er mwyn caniatáu iddynt ddefnyddio clo drws electronig drwy ei gicio! Mae hyn yn datrys yr ateb o gofio cloi adeiladau allanol, gan eu bod bob amser yn cael eu cloi yn awtomatig. Penderfynodd y panel y gallai hyn fod yn ddatrysiad hwyliog fel ffordd o bosibl i ddechrau offer ffermio heb unrhyw allweddi, a bydd Rhydian yn archwilio hyn ymhellach.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, “Roedd yn wych gweld ystod o bobl yn gosod atebion heddiw, ac yn arbennig gweld rhai myfyrwyr o ysgolion Dylunio Cynnyrch a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor yn cymryd rhan! Dyna un o'r rhesymau yr oeddem am helpu gyda'r hac - mae'n wych gallu arallgyfeirio a gweithio ar draws sectorau i ddod o hyd i atebion, dyna hanfod M-SParc, ond mae hefyd yn wych gweld pobl ifanc o'r rhanbarth yn cymryd mantais o'r cyfleoedd hyn ac yn dod i 'roi cynnig arni'!”

Yn ogystal â'r cyllid gwobrwyo, a mynediad i rwydwaith arddangos Ffermydd y Dyfodol, bydd yr enillwyr hefyd yn cael mynediad i ofod gwneuthurwyr Ffiws yn M-SParc. Bydd pob prosiect yn cael ei annog i dyfu a datblygu, gyda'r bwriad y bydd llawer ohonynt ar ffermydd ar draws ogledd Cymru erbyn y flwyddyn newydd.