Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Brexit
29th November 2018
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Brexit, gwerth £1 miliwn sydd ar gael i fusnesau Cymru, i'w helpu i addasu i'r newidiadau yn economi Cymru ar ôl Brexit.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfle i fusnesau cymwys i wneud cais am gyllid rhwng £10,000 a £100,000 hyd at 50% o gostau’r prosiect.
Amcanion y Gronfa Cydnerthedd Brexit yw:
- datblygu capasiti
- gwella prosesau
- cadw cystadleurwydd
- diogelu swyddi
- sicrhau bod masnach yn llifo'n ôl ac ymlaen rhwng Cymru a gweddill y byd
I wneud cais, rhaid i fusnesau:
- fod wedi'u cofrestru i fasnachu yng Nghymru
- gofrestru gyda Busnes Cymru a chwblhau’r Pecyn Cymorth ar Brexit pan fyddant yn cyflwyno cais
- gallu dangos y bydd y cyllid yn cyfrannu ar ddiogelu swyddi
- bod yn masnachu ers 12 mis neu fwy ar ddiwrnod cyflwyno'r cais
Os yw eich busnes yn bodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych brosiect mewn golwg a allai eich helpu i feithrin cydnerthedd ac ymdopi â'r newidiadau y gallech eu hwynebu ar ôl Brexit, yna mae'r gronfa hon yn addas i chi.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, cysylltwch â 03000 6 03000 a byddwch chi'n cael eich cysylltu â chynghorydd i gwblhau'r broses ymgeisio.