Mae gennych chi’r Sbarc hwnnw ar gyfer Cwmni Newydd, ond Ooooo! Pa enw i’w roi arno?

Hefyd mae’r holl enwau parth rhyngrwyd posibl wedi eu cymryd! Beth nawr?

Mae gennych syniad, mae’r syniad hwnnw’n datrys problem; mae gan y broblem honno enw, ond wrth gwrs mae’r enw parth hwnnw eisoes wedi ei sicrhau gan rywun arall.

Yn llawn trallod, fe allech hyd yn oed ddiffodd y sbarc yn llwyr gan deimlo bod rhywun arall eisoes yn ei wneud.

STOPIWCH! Cadwch y fflam ynghyn a meddwl eto am y broblem. Mae atebion syml i'w cael! 

Dim ond rhoi enw perthnasol i’ch cwmni sydd eisiau ac yna poeni am yr enw parth yn ddiweddarach.

Hyd yn oed yn ddiweddar, bûm yn chwarae rhan yn enwi cwmni newydd yng Nghanada, yr oedd ei gynllun busnes a’i gyfeiriad wedi bod yn destun misoedd o ddilysu a chraffu. Bûm yn ymwneud â’r broses yr wythnos hon pan na ellid penderfynu ar enw. Gan ddefnyddio’r strategaeth isod, yr oedd modd i mi enwi a chreu hunaniaeth ar gyfer y cwmni mewn ychydig oriau’n unig ar ôl meddwl a chanfod ei rinwedd gwerthu unigryw (SSP) o’r cynllun busnes. Unwaith eto, dewiswyd yr enw a gynigiwyd gennyf ar y cwmni ond oherwydd y .com URL a oedd yn cael ei gymryd, roedd y ffocws yn cael ei symud oddi wrth beth sy’n disgrifio’r cwmni’n gywir at enwau eraill sy’n fwy ar hap a heb fod yn gysylltiedig â’r gwasanaeth.

Ni a enillodd yn y diwedd drwy feddwl o gwmpas y broblem a pheidio â gwneud argaeledd yr URL yn ffactor pwysicaf o ran y penderfyniad.

Hyd yn oed yn ôl yn 2009, cafodd Alacrity ei enwi heb i’r URL fod yn ffactor diffiniol. Erbyn hyn maer Alacrity wedi cyrraedd cylchrediad byd-eang ac rydym wedi gorfod addasu ac ail-frandio er mwyn cael alacrityglobal.com fel yr hwb ac yna AlacrityGWLAD.com fel y safle lefel eilaidd, yn dibynnu ar y lleoliad. Dim ond yn fersiwn y DU y mae’n parhau'n alactrityfoundation.com a ddim yn defnyddio’r wlad oherwydd y dylanwad elusennol.

Mwy ynghylch sicrhau URL ar gyfer eich cwmni yn ddiweddarach, ond yn y cyfamser, beth am ganolbwyntio ar y gwahanol amrywiadau o ran enwi cwmni.

Yr Enw Cwmni a fydd yn Eich Diffinio Chi a’ch Cynnyrch.

Heddiw mae bob enw dan haul wedi ei sicrhau gydag enw parth .com. Gallech ddod ar draws gair cwbl ar hap o eiriadur ond efallai na fydd ganddo unrhyw ystyr perthnasol ac felly ni fyddai o unrhyw fudd i chi.

Cyn dylunio unrhyw lenyddiaeth, byddai’n fuddiol penderfynu ar enw i’ch cwmni yn gyntaf. Bydd enw eich cwmni yn diffinio ym mha fath o arddull y byddwch yn ysgrifennu, ac yn agor thesawrws o eiriau  sy’n ymwneud â chi sy’n eich galluogi i’w defnyddio a’u hadeiladu i mewn i strategaeth eich brand.

Mae enwau, geiriau a delfrydau wedi eu cynnwys yn enwau cwmnïau o’n cwmpas ym mhobman ac rydym wedi gweld rhai enwau hollol wallgof a oedd yn wreiddiol fel, beth? Ond ar ôl cyfnod byr, byddant yn dod yn norm a byddwn yn dechrau defnyddio’r enwau hyn fel enwau newydd yn ein bywyd bob dydd (Google a Hoover, er enghraifft).

O’r tu allan, wrth edrych i mewn, mae IKEA yn un o’r enwau rhyfedd, gwallgof hyn. Mae’n wych ei fod yn air byr, ond mae’n dair sillaf sy’n golygu dim byd! Mewn gwirionedd, yr hyn ydyw yw llythrennau cyntaf enw’r sylfaenydd, yn cael eu dilyn gan y dref lle y magwyd ef, creu enw newydd sy’n nonsens llwyr ond mae’n gweithio (wel, mae’n gweithio nawr beth bynnag).

Mae pob cwmni sy’n cychwyn yr wyf i wedi bod yn ymwneud ag ef yn meddwl mai gwell yw chwarae’n saff gydag enw ‘normal’, ond wedyn, beth sy’n normal? Does dim y fath beth erbyn hyn ac mewn gwirionedd dylai’r ffocws fod ar enw unigryw yn union fel IKEA.  Mae enwau unigryw yn anodd iawn i’w creu, a hyd yn oed wedyn, gall yr URL gael ei gymhwyso’n rhyfedd i rywbeth amherthnasol.

Fel cwmni newydd ei sefydlu’n llwyddiannus, bydd angen i chi gymryd risg gyda’ch enw ond sicrhewch eich bod yn ei wneud yn un cofiadwy ac unigryw a fydd yn ysgogi hyder ac wrth gwrs yn fythgofiadwy.

Beth Ydw i Angen i gael Enw sy’n Sefyll Allan?

Bydd enw sy’n sefyll allan i gwmni angen bod yn gynifer â phosibl o’r pwyntiau hyn, po fwyaf ohonynt, mwyaf llwyddiannus fyddwch chi wrth sicrhau URL a chael brand cydlynol, gwerth chweil.

Bod yn Berthnasol

Bod yn Unigryw

Cael ei Hoffi

Hawdd ei Sillafu

Hawdd ei Ynganu

Hawdd i Sicrhau Parth

Ddim mor hawdd, nac ydy?

Wel, mae yna wahanol ddulliau o enwi, pob un gyda’i fanteision a’i gyfyngiadau ei hun...

Gwahanol Ddulliau ar gyfer Creu Enw Cwmni

Geiriau Go Iawn yn Enwau

Mae geiriau go iawn yn eithaf amlwg, geiriau a gymerwyd yn syth o’r geiriadur a rhoi pwrpas arall iddynt.

MANTEISION: Yn gyffredinol, maent yn fyrrach, yn haws eu sillafu ac yn dod gyda diffiniadau parod o eiriadur a allai fod yn ymwneud â’ch cwmni, cynnyrch neu wasanaeth, gan nodir yr hyn a wnewch yn gyflym a didrafferth.

CYFYNGIADAU: Anaml iawn y gwnewch chi sicrhau enw parth gyda dim ond un gair go iawn erbyn hyn, yn enwedig parth .com. Os oes modd i chi ei brynu gan ‘sgwatwyr’ (pobl sy’n prynu parthau ac yn gobeithio ei hail-werthu am elw sylweddol) yna bydd yn costio llawer o arian i chi. Hefyd, gan fod y gair hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio’n gyhoeddus, byddai creu nod masnach yn fater dadleuol a byddai hawlfraint yn gymhleth.

AMAZON

YAHOO

DISCOVERY CHANNEL

Enwau Cyfansawdd

Ymddengys bod dewis enwau cyfansawdd yn fwy poblogaidd ar gyfer enwau cwmnïau'r dyddiau hyn a’r peth gorau ar ôl enw sy’n air go iawn. Yn syml iawn mae enw cyfansawdd yn ddau air, wedi eu gwasgu at ei gilydd yn gyfan neu’n rhannol, i greu gair newydd.

MANTEISION: Nifer diderfyn bron o gyfuniadau posibl a all ei gwneud yn haws creu enw unigryw.

CYFYNGIADAU: Gallant fynd yn hir neu swnio fel gair go iawn arall a allai gael dylanwad negyddol, felly byddwch yn ofalus.

WORDPRESS

WESLEYCLOVER

FACEBOOK

 

Enwau Cyfun

Mae’r rhain fel arfer wedi’u creu o ddau air yn yr un modd ag enwau cyfansawdd, ond  dim ond darn o air y gellir ei adnabod yn hytrach na gair cyfan.

MANTEISION: Gall cyfuniadau fod yn gain a bod â mantais enw cyfansawdd.

CYFYNGIADAU: Pan fydd cyfuniad yn fethiant, mae’n lletchwith ac aneglur, fel arfer pan mae'n fyr ac yn cuddio’r geiriau disgrifiadol gwreiddiol.

WIKIPEDIA (Wiki + encyclopaedia)

SKYPE (Sky + Peer to Peer)

MICROSOFT (Microcomputer + Software)

 

Enwau Gwneud

Fel IKEA, mae enwau gwneud yn eiriau byrion sydd un ai wedi’i gwneud i fyny yn llwyr neu y mae eu tarddiad mor aneglur fel na fyddai waeth iddynt fod yn enwau gwneud llwyr.

MANTEISION: Gall yr enwau gwneud hyn fod yn fyr iawn ac yn unigryw.  Bydd yr URL .com ar gael bron bob amser.

CYFYNGIADAU: Nid yw’r enwau hyn yn darparu unrhyw beth sy’n helpu i ddisgrifio’r cwmni na’r hyn a wnânt. Gallant hefyd fod yn anodd eu sillafu oni fyddant yn amlwg yn ffonetig.

KODAK (Roedd y sylfaenydd  eisiau unrhyw beth, ond yr oedd yn arbennig o hoff o’r llythyren K)

HÄAGEN-DAZS (Ie, enw gwneud yn llwyr. Daw o Efrog Newydd ac wedi’i lunio er mwyn swnio fel pe bai o Ddenmarc)

DANONE (Wedi’i enwi ar ôl mab y sylfaenydd, Dan a’r gair ‘one’)

 

Felly, wedi eich arfogi gyda’r gwahanol gonfensiynau enwi a nodwyd uchod, gallwch yn awr ddechrau gweld y

cyfleoedd sydd ar gael i chi yn lle poeni am ymyriadau fel argaeledd URL.

Peidiwch ag anghofio elfennau hanfodol creu enw sy’n sefyll allan:

Bod yn Berthnasol

Bod yn Unigryw

Cael ei Hoffi

Hawdd ei Sillafu

Hawdd ei Ynganu

Hawdd i Sicrhau Parth

I gloi. Yn ôl at i Broblem Parth Rhyngrwyd

Rwyf wedi bod yn ymwneud ag enwi cwmnïau gan ddefnyddio pob un o’r arddulliau uchod.  Mae rhai mathau o enwau yn fwy perthnasol na’i gilydd, a chi yn unig all benderfynu hynny.  Yn Alacrity. Roedd un cwmni o'r fath wedi’i enwi’n Harness. Yr oeddynt yn galluogi pobl i gael cefnogaeth i’w cynorthwyo gyda thriniaeth ysbyty, hyfforddi neu rasys elusennol neu hyd yn oed newid arferion fel ysmygu neu yfed mwy o ddŵr. Mynnais iddynt ddefnyddio’r enw Harness, gan ei fod yn golygu cefnogaeth, cryfder a dycnwch, ond yr oedd y ffocws unwaith eto ar fethu â sicrhau’r enw parth .com

Yn y diwedd, ar ôl ceisio newid enw’r cwmni sawl gwaith oherwydd y mater bach hwn o enw parth, aethom yn ôl at Harness ac ychwanegu WE ARE ar ddechrau’r URL gan ddod yn weareharness.com.

Hefyd, yn ôl at enwi'r cwmni yng Nghanada a sut y bu i mi ei greu.  Yn ei hanfod, mae’r cynnyrch yn cwmpasu (heb ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol) darparu wifi hynod o effeithlon a chyflym, drwy seilwaith dinasoedd dros wahanol donfeddi. Drwy ddarllen eu cynllun busnes, yr oeddwn yn gallu canolbwyntio, canolbwyntio, canolbwyntio a chywasgu popeth i lawr i

eiriau allweddol o ddiddordeb megis:

Cyflymder

Tonfedd

Dinas

Gan ddefnyddio’r llyfrnod a ddefnyddiaf amlaf - thesaurus.com gallwn weld geiriau eraill sy’n golygu’r un pethau a nodi a oedd unrhyw rai ohonynt yn gweithio gyda’i gilydd i wneud gair cyfun effeithlon. Yr enw y trawais arno’n gyflym iawn oedd WAVELOCITY. Mae’r gair ‘wave’ yn gorgyffwrdd â VELOCITY gan ddefnyddio’r un llythrennau, ond mae hefyd yn cynnwys y gair CITY. Drwy hynny, mewn un enw cwmni newydd nodir darparu wifi cyflym yn y ddinas.

Yn anffodus, yr oedd y parth eisoes wedi ei gymryd, er nad oedd yn enw ‘go iawn’, ond eto roeddwn yn argyhoeddedig bod yr enw’n disgrifio’r gwasanaeth yn gywir. Penderfynwyd ychwanegu CORP i ddiwedd yr URL a’i sicrhau, felly prynwyd wavelocitycorp.com ddim ond ychydig o ddyddiau’n ôl.

Opsiynau eraill ar gyfer ychwanegu at eich enw parth i’ch galluogi i sicrhau’r enw parth .com lefel uchaf, fyddai unrhyw un o’r rhain...

WEARE-----

-----HQ

-----CORP

GET-----

TRUST-----

-----APP

USE-----

-----CORP

Gair am yr Awdur

Paul Bailey ydy Cyfarwyddwr Dylunio a Marchnata yn Wesley Clover. Mae wedi gweithio dan ymbarél entrepreneuriaeth busnesau a ariennir gan Terry Matthews ar ôl graddio ym Mhrifysgol Casnewydd yn 2000.  Paul sy’n gyfrifol am gyfeiriad a brand byd-eang y rhaglen Alacrity. Mae’n mentora ac yn uniongyrchol gynorthwyo cwmnïau graddedigion o Sefydliad Alacrity o'r Ganolfan Arloesedd yng Nghasnewydd yn ogystal â helpu portffolio Wesley Clover o dros 70 o gwmnïau ledled y byd.