MAE EUROPEAN MAKER WEEK YN ÔL - CANFOD ANGEN, DATBLYGU ATEB

Gan adeiladu ar European Maker Week y llynedd, bydd yr ymgyrch eleni yn herio pob gwneuthurwr creadigol i ganfod angen yn ei gymuned a datblygu atebion ar gyfer problemau go iawn.

Mae Gwneuthurwyr yn creu allweddi iddyn nhw eu hunain ar gyfer y dyfodol: yn datblygu atebion a chynhyrchion newydd ar gyfer heriau anodd; yn ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu rhyngweithiol ymarferol mewn perthynas â phynciau STEM, y celfyddydau a dylunio; ac yn galluogi unigolion i ddysgu sgiliau gwneud a gweithgynhyrchu newydd.

Nod pob prosiect cymunedol yw annog gwneuthurwyr i ganfod problem yn eu cymuned a datblygu ateb, gyda chanlyniadau disgwyliedig #EMW17 yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddiwrnod penodol pob digwyddiad.  

Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut gallwch chi drefnu digwyddiad ar gael yma.