Mae entrepreneuriaeth yn grefft, a dyma pam mae hynny’n bwysig

Er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth bresennol o sefydlwyr cwmnïau, mae angen iaith gyffredin a chyfleoedd prentisiaeth ar gyfer addysg entrepreneuriaeth.

Gydag 20 mlynedd a mwy o brofiad fel entrepreneur a saith mlynedd fel addysgwr entrepreneuriaeth, rwyf wedi bod yn ystyried a ddylai’r broses o sefydlu cwmnïau llwyddiannus gael ei hystyried yn wyddor neu’n gelfyddyd. Os mai gwyddor ydy entrepreneuriaeth, byddwn yn gallu dweud wrth fyfyrwyr y bydd gwneud X ac Y yn siŵr o arwain at Z. Os mai celfyddyd ydy entrepreneuriaeth, gellir ei disgrifio fel proses greadigol amwys sydd ond o fewn cyrraedd yr ychydig rai fel gyrfa broffidiol.

Er fy mod i’n teimlo bod llawer o elfennau o entrepreneuriaeth yn debyg iawn i brosesau empirig, rwyf hefyd yn teimlo bod llawer o’r elfennau eraill yn galw am greadigrwydd. Rwyf wedi bod yn chwilio am fodel sy’n ymgorffori’r ddau ffactor hwnnw mewn model cydlynol sy’n egluro’r ffordd fwyaf llwyddiannus o fynd ati i sefydlu cwmni, a dechreuais feddwl am grochenwyr. Mae’r unigolion medrus hyn yn rhoi celfyddyd ar waith ym mhopeth maen nhw’n ei greu. Ond os nad ydyn nhw’n gwybod hanfodion y broses o fowldio clai i greu gwrthrychau gorffenedig, fyddan nhw ddim yn llwyddo i gyflawni eu nod. Dydy crochenwaith ddim yn wyddor nac yn gelfyddyd. Crefft ydy crochenwaith, ac mae hynny’n galw am y ddwy elfen.

Mae gan grochenwaith ychydig o nodweddion allweddol sy’n golygu mai crefft ydyw yn sicr, yn hytrach na gwyddor neu gelfyddyd:

Mae o fewn cyrraedd pawb. Gall unrhyw un bron wneud crochenwaith gyda chlai. Nid rhywbeth i’r dethol rai sy’n meddu ar ddawn naturiol eithriadol ydy crochenwaith.

Mae’n bosib dysgu’r grefft. Mae crochenwaith yn galw am nifer o sgiliau hanfodol – ond, bydd angen dysgu hanfodion y ddisgyblaeth yn gyntaf. Er hynny, mae’n bosib dysgu’r sgiliau hyn. Mae angen mwy na thipyn o lwc i fod yn grochenydd!

Mae’n gweld gwerth mewn rhywbeth unigryw. Pan fydd crochenwaith wedi’i wneud yn dda, mae’n hardd ac yn unigryw. Nid mynd ati i greu eu heitem eu hunain, neu eitem rywun arall, dro ar ôl tro ydy nod nifer o grochenwyr – yn hytrach na hynny, maen nhw’n ceisio creu rhywbeth newydd a gwerthfawr.

Mae’n seiliedig ar gysyniadau sylfaenol. Pan fydd crochenydd yn dysgu sut mae taflu clai ar droell, bydd yn rhaid iddo ddilyn egwyddorion syml fel sut mae defnyddio’ch bysedd a’ch bodiau i fowldio rhigolau o wahanol faint, a sut mae perffeithio’r sgil o ddefnyddio’r pedalau traed. Er na fydd gwybod y cysyniadau hyn yn sicr o arwain at lwyddiant, bydd crochenydd yn fwy tebygol o lawer o ddeall cysyniadau mwy cymhleth yn nes ymlaen yn y broses.

Prentisiaeth ydy’r ffordd orau o ddysgu. I nifer o grefftwyr, mae prentisiaeth yn rhan allweddol o’r broses ddysgu. Er mwyn deall y grefft yn iawn, bydd rhaid dysgu sut mae defnyddio troell crochenydd yn ogystal â dysgu sgiliau penodol eraill fel tylino’r clai a defnyddio odyn. Mae’n bosib egluro’r rhain drwy ddarlith heb brofiad ymarferol, ond dylid cyfuno hynny â hyfforddiant prentisiaeth – dyna’r ffordd orau o’u dysgu.

Nawr rydym am ystyried y nodweddion allweddol hyn yng nghyd-destun entrepreneuriaeth:

Mae o fewn cyrraedd pawb. Daw entrepreneuriaid o bob cefndir, a hynny fel mater o raid yn aml iawn. Mewn rhai rhannau o’r byd – yn Fietnam er enghraifft – mae entrepreneuriaeth yn ffordd o fyw. Yn yr un modd â chrochenwaith, does dim angen i rywun gael ei fendithio â dawn arbennig er mwyn dechrau menter newydd, dim ond bod ganddo’r dyhead ac ychydig o’r potensial cynhenid sydd gan bawb bron. Mae pobl yn tueddu i feddwl bod gan entrepreneuriaid rhyw ddawn arbennig a’u bod yn unigryw mewn rhyw ffordd, ac mae hyn yn broblem. Mae meddwl am entrepreneuriaeth fel crefft yn help i ddelio â’r broblem hon.

Mae’n bosib dysgu’r grefft. Mae data o nifer fawr o astudiaethau’n dangos mai po fwyaf o weithiau y byddwch chi’n dechrau cwmni, y gorau fydd eich siawns o lwyddo yn y dyfodol. Mae entrepreneuriaid sy’n mynd ati i sefydlu cwmnïau dro ar ôl tro yn dysgu sut mae bod yn entrepreneuriaid gwell. Rwy’n gweld hyn yn ein canolfan entrepreneuriaeth a’r ystafell ddosbarth bob dydd, ac yn y farchnad hefyd.

Mae’n gweld gwerth mewn rhywbeth unigryw. Dyma’r her graidd sy’n wynebu entrepreneuriaid: creu rhywbeth newydd na welwyd ei debyg o’r blaen i’w gyflwyno i’r byd, neu ychwanegu elfen unigryw at rywbeth sydd eisoes yn bodoli ac sy’n ddigon gwerthfawr i ragori ar opsiwn tebyg. Yr ymgais hon i ddod o hyd i bwynt gwerthu unigryw sy’n gwneud entrepreneuriaeth yn rhywbeth anodd dros ben. Hefyd, dyma pam mae entrepreneuriaeth yn debyg iawn i grefftwr da – mynd ati mewn ffordd greadigol i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgwyd er mwyn creu rhywbeth gwerthfawr.

Mae’n seiliedig ar gysyniadau sylfaenol. Mae’n bosib dysgu nifer o gysyniadau sylfaenol ynghylch sut mae datblygu busnes. Mae fy mhrofiad i yn enghraifft o hynny: Roedd fy ymgais gyntaf i lansio cwmni – Cambridge Decision Dynamics – yn fethiant llwyr. Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd am ddechrau a rhedeg busnes. Doeddwn i ddim yn meddwl bod adnoddau dynol yn bwysig. Doeddwn i ddim yn deall y berthynas rhwng y cynnyrch a’r farchnad, doedd gen i ddim syniad sut i gasglu arian go iawn, a doeddwn i ddim yn deall bod llif arian yn wahanol i broffidioldeb – ac yn llawer pwysicach hefyd. Mae deall y pethau hyn yn golygu eich bod yn fwy tebygol o lawer o lwyddo, er nad yw’n sicrhau hynny.

Prentisiaeth ydy’r ffordd orau o ddysgu. Er bod gwybodaeth sylfaenol am fyd busnes yn bwysig, mae sgiliau yn y byd go iawn yn hanfodol i’r grefft o entrepreneuriaeth, fel y maen nhw’n bwysig i grochenwyr. Hanfod entrepreneuriaeth ydy rhoi cysyniadau sylfaenol ar waith. Mae nifer o entrepreneuriaid yn gweithio mewn diwydiant yn gyntaf, yn dysgu am nodweddion y math penodol hwnnw o fusnes, ac yna’n dechrau rhywbeth tebyg. I’r rheini sy’n cael eu cyfle mawr drwy raglen addysg entrepreneuriaeth, maen nhw’n elwa o brofiadau dysgu ymarferol a’r broses fentora. Mae angen i addysgwyr gynnig cyfleoedd sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau’r ystafell ddosbarth a dealltwriaeth ddamcaniaethol, ac yn ymdrin yn fanwl â’r broses o roi hynny ar waith. Mae’n hanfodol bod cwricwlwm rhaglen entrepreneuriaeth yn cynnwys y nodweddion hyn.

Meddwl am entrepreneuriaeth fel crefft – beth mae hynny’n ei olygu i addysgwyr?

Mae meddwl am entrepreneuriaeth fel crefft yn gallu ein helpu i wynebu nifer o’r heriau mawr y mae entrepreneuriaeth yn addas iawn ar eu cyfer. Wrth addysgu, dylem geisio helpu i addysgu’r don nesaf o arloeswyr a fydd yn gallu rhoi sylw i’r problemau sy’n ymddangos yn rhai anodd eu datrys mewn meysydd fel gofal iechyd ac ynni, i enwi dim ond dau. 

O ran yr elfen theori, mae’n rhaid i addysg entrepreneuriaeth ganolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth gadarn sy’n llywio set gyffredin o gysyniadau sylfaenol er mwyn ceisio cynyddu siawns ein myfyrwyr o lwyddo. Bydd yn rhaid i ni ddilysu’r cysyniadau hyn gan ddefnyddio’r technegau ymchwil trylwyr sydd ar gael ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Ar yr un pryd, bydd yn rhaid i ni ddatblygu rhaglenni hyfforddiant ar gyfer crefftau yn ein hysgolion er mwyn rhoi’r cysyniadau hyn ar waith drwy fodel prentisiaeth. 

Bydd yn anodd cyflwyno addysg entrepreneuriaeth o safon ar raddfa ddigonol i fodloni’r galw. Dylem ddatblygu mwy o gyrsiau ar-lein enfawr agored a rhai gwell, fel y rheini a gynigir gan edX, er mwyn helpu i gyfleu cysyniadau sylfaenol. Law yn llaw â hynny, dylem fynd ati i ddatblygu cymunedau ymgynghorol o hyfforddwyr, mentoriaid ac arbenigwyr sy’n gallu cefnogi dull addysgol sy’n canolbwyntio mwy ar brentisiaeth.

Bydd hyn yn arwain at ddau ganlyniad: Bydd fframweithiau ac ieithoedd cyffredin yn cael eu datblygu - fel y gwelwyd mewn meysydd eraill fel meddygaeth, y gyfraith ac economeg - a bydd ymarferwyr yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud i greu cymuned brentisiaeth fwy cydlynol. Law yn llaw â hynny, bydd cysyniadau sylfaenol entrepreneuriaeth yn cael eu gwella a’u diweddaru’n barhaus.  Bydd hyn yn creu cylchoedd adborth rhithiol – yn troi a throi fel troell y crochenydd.

Mae gennym gyfle i greu llwybr a fydd yn sicrhau bod miliynau o entrepreneuriaid yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cael dylanwad cadarnhaol ar y byd. Drwy egluro mai crefft ydy entrepreneuriaeth, byddwn yn gallu mynd ati’n briodol i gynllunio ateb addysgol sydd o fewn cyrraedd ac sydd ei angen arnom.  Bydd pob un ohonom yn elwa yn y tymor hir.

Gair am yr Awdur

Bill Aulet ydy rheolwr gyfarwyddwr Martin Trust Center for MIT Entrepreneurship, ac mae’n athro yn Ysgol Reoli Sloan MIT. Bill ydy awdur Disciplined Entrepreneurship: 24 Steps to a Successful Startup (Wiley, 2013), ac mae hefyd newydd gyhoeddi Disciplined Entrepreneurship Workbook (Wiley, 2017), sy’n cyd-fynd â’r llyfr hwnnw.

Ffynhonnell: http://sloanreview.mit.edu (Gorffennaf 2017)