Mae Cymru yn Agored ar gyfer Busnes

Simon Renault, Pennaeth Prosiectau Arbennig Innovation Point ac Arweinydd Digidol Cymru

 

Ar ôl gweithio mewn polisi TGCh y Llywodraeth a chyda thrawsnewidiad cyflawni gwasanaethau wedi’u sbarduno gan dechnoleg drwy gydol fy ngyrfa, yn naturiol rydw i wedi cadw llygad barcud ar siwrnai ddigidol ein gwlad dros y 15 mlynedd ddiwethaf – a dyna siwrnai oedd honno! Diolch i fand llydan cyflym iawn, strategaeth ar gyfer cenedl ddigidol ffyniannus eglur, ac arloeswyr digidol ar alw gartref, y mae Cymru yn gadarn ymysg dadeni digidol sydd wedi denu sylw entrepreneuriaid a buddsoddwyr drwy’r byd i gyd.

O’r holl wledydd di-ri sydd ar gael, y mae Next Generation Data (NGD) wedi’i leoli yma yng Nghymru, ac mae canolfan ddata fwyaf yn Ewrop a champws 50 acer yno ac mae’n darparu ynni sy’n 100% adnewyddadwy. Yn y cyfamser, bu’r tîm entrepreneuraidd sydd y tu ôl i’r ap hynod o lwyddiannus, DashHound, yn ennill profiad yn Nyffryn Silicon, ond gwnaethon nhw ddewis lansio a meithrin eu busnes yng nghymoedd digidol Cymru.

Wedi ystyried pobman o San Francisco i Beijing, gwnaeth y busnes deallusrwydd artiffisial newydd ar gyfer y sector gwybodaeth fusnes, Amplyfi, hefyd ddewis gwneud Cymru yn gartref iddo, oherwydd costau dymunol, cronfa o raddedigion lleol wrth gefn yn barod i’w cyflogi, ynghyd â chyfleoedd a chymhellion cyllid cefnogol yn cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru – a’r cyfan oll llai na dwy awr o Lundain. Nid yw’n syndod fod prifddinas ein cenedl eisoes yn gartref i nifer o fusnesau sy’n cychwyn ac yn brwydro i fod yn gwmni ungorn cyntaf Cymru.

Fel y mae entrepreneuriaid a’u busnesau newydd wedi ymddangos drwy’r tir, felly hefyd y deorfeydd, y sbardunwyr a’r mannau cydweithio sydd eu hangen ar gyfer eu meithrin, eu harfogi a’u grymuso. Mae’r IndyCube dyfeisgar wedi bod yn llwyddiant ysgubol drwy’r wlad, drwy ddarparu desgiau poeth a rhwydweithiau cydweithredol a mannau i gychwyn busnes ac ar gyfer busnesau sydd wedi hen sefydlu hefyd – ac, yn awr, mae’n rhoi ei fryd ar weddill y DU. Yn ogystal, y mae Canolfan Arloesi Menter Cymru wedi cael effaith anferth ar Gymru, yn rhoi cartref i gymuned anferth o entrepreneuriaid a busnesau technoleg newydd ac mae’n cael effaith anghredadwy ar economi Caerffili a’r ardaloedd o gwmpas wrth wneud hyn. Mewn mannau eraill, y mae mudiadau fel Cardiff Start a Dydd Mawrth Digidol wedi datblygu cymunedau ffyniannus yn gyflym drwy eu gweledigaeth ar y cyd o Gymru sy’n wirioneddol ddigidol.

Draenen gyffredin yn ystlys busnesau’r DU yw’r anawsterau y maen nhw’n eu hwynebu wrth recriwtio o gyflenwad o raddedigion technoleg sy’n barod ar gyfer gwaith ac sy’n meddu ar sgiliau ardderchog - yn arbennig felly wrth ddod o hyd i beirianwyr meddalwedd, arbenigwyr diogelwch seibr a phenseiri rhwydweithiau. Tra’u bod yn meddu ar sgiliau ar bapur, nid oes ganddyn nhw’r profiad ymarferol sydd ei angen er mwyn ymgymryd yn llawn â’r swyddi hyn.

Er mwyn ymdrin â hyn, y mae Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â’r Alacrity Foundation, Llywodraeth Cymru a ninnau yma yn Innovation Point, wedi datblygu model newydd radical i israddedigion ar gyfer peirianwyr meddalwedd y dyfodol; Academi Meddalwedd Genedlaethol (AMG). Mae’r cynllun arloesol hwn yn cefnogi myfyrwyr i ‘ddysgu drwy wneud’; gan eu trochi mewn prosiectau meddalwedd go iawn gyda chleientiaid go iawn er mwyn iddyn nhw gael mewnwelediad go iawn i’r byd gwaith. Mae’r canlyniadau yn siarad drostyn eu hunain, gyda thros 150 o fusnesau Cymru yn ymgysylltu yn uniongyrchol â’r AMG yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf. Mae llawer o’r busnesau sy’n gweithio gyda’r israddedigion yn mynd ymlaen i’w cyflogi nhw cyn gynted ag y maen nhw’n graddio, oherwydd bod ganddyn nhw’r wybodaeth ddiweddaraf, ac yn bwysicach na hynny, y mae ganddyn nhw brofiad sylweddol mewn amgylchedd busnes yn y byd go iawn.

Drwy fanteisio ar lwyddiant yr AMC, y mae Innovation Point ers hynny wedi arwain cydweithrediad gyda Phrifysgol De Cymru a busnesau seiberddiogelwch wrth ddylunio a chyflawni yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol (ASDdG) a fydd yn derbyn ei gohort cyntaf o israddedigion a fydd yn astudio am BSc mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae’r dull hwn o gyflawni, sef wrth ei flas y mae profi pwdin, yn gwricwlwm ar gyfer israddedigion sydd wedi cael ei gynllunio gan y diwydiant ac wedi cael ei ddysgu drwy brosiectau bywyd go iawn, ac yn awr, y mae’n cael ei archwilio gan Brifysgolion eraill yng Nghymru, mewn disgyblaethau academaidd eraill fel Data Mawr a dadansoddeg data.

Mae’r dadeni digidol hwn wedi llifo i bob agwedd o fywyd yng Nghymru, gan sbarduno arloesi digidol a chreu cymuned wirioneddol ddigidol yn y broses. Mae hyn i gyd wedi helpu i sefydlu ein gwlad fechan, ond ein gwlad frwd ni, yn gyflym fel maes chwarae ar gyfer egin entrepreneuriaid, cychwyn busnesau ac ehangu busnesau fel ei gilydd – felly dewch i chwarae!

Pob lwc i’r 15 mlynedd nesaf.