Llwyddiant i Hac Caredigrwydd Canolbarth Cymru

Mae'r Hac Caredigrwydd digidol cyntaf yng nghanolbarth Cymru wedi gweld dwy fenter gymdeithasol yn lansio i fynd i'r afael â materion lleol.

Hack of kindness

Dychmygwch eich bod wedi cael wythnos i gynnig atebion cynaliadwy ar gyfer materion cymdeithasol yn eich ardal. Gyda mynediad at weithdai a'r cyfle i holi arbenigwyr, beth ydych chi'n meddwl y byddech yn ei gyflawni? Gan weithio ochr yn ochr â nifer o bartneriaid yn yr ardal, cafodd trigolion Powys a Cheredigion y cyfle i ddod o hyd i'r ateb; ac roedd y canlyniadau'n rhagorol.

 

Cydweithiodd Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, sy'n cynnal rhaglen Dechrau Newydd Busnes Cymdeithasol Cymru, er mwyn cynnal 'Hac Caredigrwydd' rhithiol, ble cafodd cyfranogwyr eu rhannu'n dimau i ymchwilio a datblygu eu syniadau. Mae dau o'r timau hyn bellach wedi dechrau datblygu eu syniadau tu hwnt i'r Hacathon.

Newtown Hack event

 

Un syniad oedd datblygu gofod ble gallai pobl ddefnyddio offer, dysgu sgiliau newydd a chymdeithasu. Cynigiodd David Davies ac Andrew Deacon hyn i'r panel cyflwyno ar ddiwrnod olaf y digwyddiad.

 

"Nid oeddwn yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth fynd i mewn, ond mae'r Hacathon wedi bod yn wych. Unwaith y gwnaethom ddatblygu ein syniad a'i gyflwyno, cysylltodd un o'r cyllidwyr â ni ac mae'n edrych yn debygol y byddwn yn cael ychydig o gyllid ganddynt hwy. Rydym hefyd wedi parhau i dderbyn cymorth Busnes Cymdeithasol Cymru. Roedd hwn yn ddigwyddiad ymarferol iawn a ddylai arwain at lansio ychydig o fentrau cymdeithasol newydd." David Davies, mynychwr Hacathon.

 

"Cwrddais â David Davies yn yr ystafell ymneilltuo ac mae wedi dod yn rhan greiddiol o'r fenter. Ers hynny rydym wedi cwrdd â nifer o aelodau tîm eraill ac rydym yn sicr ar y trywydd cywir diolch i'w cymorth a'u harweiniad. Credaf y dylai'r digwyddiad hwn gael ei ailadrodd yn rheolaidd, gan fod ei gynnal dros un wythnos wirioneddol yn eich helpu i ddeall y wybodaeth rydych wedi ei chael a bod yn barod ar gyfer y cyfarfod nesaf." Andrew Deacon, mynychwr Hacathon.

 

Dywedodd Holly Jones, Dirprwy Reolwr Cymunedol ar gyfer Hwb Menter Ffocws y Drenewydd:

 

"Gwelsom dros 40 o bobl yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad wythnos o hyd a phob un yn dod â'u syniadau unigryw eu hunain, ac rwyf yn hynod falch o weld dau o'r syniadau hyn yn symud i'r camau lansio a dau arall yn gwneud cais am gyllid. Roedd yn ysbrydoledig clywed am y ffyrdd y gallwn o bosib fynd i'r afael â materion megis tai a chyflogaeth ym Mhowys a Cheredigion."

 

Dywedodd Martin Downes, Swyddog Entrepreneuriaeth Gymdeithasol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

"Roedd Hac Caredigrwydd Canolbarth Cymru yn dystiolaeth fod cydweithredu yn curo cystadleuaeth bob tro. Pleser oedd cael treulio wythnos gyda phobl ymroddedig sydd eisiau gwneud pethau cadarnhaol er budd eu cymunedau. Gwnaeth pobl ymgolli mewn wythnos o ddysgu am fenter gymdeithasol, cynhyrchu syniadau a datblygu busnes cynaliadwy. Gwnaethom lunio tîm gwych o siaradwyr, trefnwyr, cyllidwyr a beirniaid.  Arweiniodd yr wythnos fywiog at syniadau a thimau newydd yn dod i'r amlwg, ac rydym yn falch o'u gweld yn symud ymlaen i gael dylanwad cadarnhaol yng nghanolbarth Cymru."

The Hack judges

 

Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf o'i fath i gael ei gynnal yn ddigidol yng Nghymru a dangosodd bump tîm yn cyflwyno eu syniadau i banel o arbenigwyr menter gymdeithasol. Mae llawer bellach wedi mynd ymlaen i drefnu cyfarfodydd pellach gyda siaradwyr gwadd i adeiladu ar eu syniad a mynd ag ef i'r lefel nesaf.

Roedd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth gyda Busnes Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth, Syniadau Mawr Cymru, Canolfan Gydweithredol Cymru, Be the Spark, Tramshed Tech, Coleg Ceredigiona Grŵp Colegau NPTC.

plan it