Inspire Wales a Creu Sbarc ar AGOR yn swyddogol i geisiadau ar gyfer eu digwyddiad ‘Pitch It’ cyntaf yng Nghymru

Caiff ‘Pitch It’ ei lansio yng Nghymru i roi’r cyfle i entrepreneuriaid gyflwyno’n fyw i gael buddsoddiad ecwiti o £10k-£50k yn y fan a’r lle

 

Pitch It Cymru promotional image

Mae Inspire Wales a Creu Sbarc ar agor yn swyddogol i geisiadau ar gyfer eu digwyddiad ‘Pitch It’ cyntaf yng Nghymru, a gynhelir ddydd Iau 17eg o Hydref ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.  Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cipolwg i ni ar weledigaeth Creu Sbarc gan y bydd yn denu pobl a sefydliadau o dri o blith pum grŵp rhanddeiliaid Creu Sbarc - y byd academaidd, cyfalaf risg ac entrepreneuriaid. 

 

Cafodd ‘Pitch It’ ei dreialu gan Inspire Wales a sylwodd fod bwlch yn y farchnad ar gyfer entrepreneuriaid a oedd yn chwilio am rowndiau cychwynnol o fuddsoddiad rhwng £10k a £50k. 

“Nod Inspire Wales yw ei gwneud hi’n haws i fusnesau bach a chanolig gael gafael ar fuddsoddiad. Entrepreneuriaeth wedi’i hysgogi gan arloesedd sydd wrth wraidd ein cronfa ac mae ‘Pitch It’ yn ffordd unigryw a chyffrous o gefnogi busnesau bach a chanolig i dyfu’n gynt yng Nghymru. 

Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni ar flaen y gad gyda’r digwyddiad hwn a thrwy arwain, gallwn barhau i feithrin gweledigaeth Creu Sbarc o greu ecosystem entrepreneuraidd fwy gweladwy, syml a chysylltiedig yng Nghymru i bawb.  Gobeithio mai'r digwyddiad yma fydd y cyntaf o lawer” ychwanegodd Matt Wakerley, Rheolwr y Gronfa, Inspire Wales.

Mae Inspire Wales yn gonsortiwm buddsoddi sydd â’r nod o roi cymorth ariannol a mentora i fusnesau sydd wedi’u sefydlu’n barod a busnesau newydd cyffrous ac uchelgeisiol.

Bydd y digwyddiad unigryw hwn yn rhoi cyfle i’r pum entrepreneur mwyaf arloesol yng Nghymru gyflwyno eu syniad busnes gerbron panel o feirniaid uchel eu parch o blith arweinwyr busnes mwyaf blaenllaw Cymru a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd yn ogystal â hwb ariannol.

 

Bydd pob entrepreneur yn cael deg munud i gyflwyno ei syniad ac yna cynhelir sesiwn holi ac ateb yn fyw gyda’r panel.  Ar ôl trafod, bydd y panel o fuddsoddwyr yn rhoi adborth arbenigol ac yn gwneud penderfyniad ynghylch y buddsoddiad yn fyw. 

 “Mae’n bleser gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd fod yn rhan o ddigwyddiad ‘Pitch It’ a’i gynnal ar ein campws yn Llandaf. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n gyfle unigryw i entrepreneuriaid gael buddsoddiad gan arweinwyr busnes blaenllaw yn y fan a’r lle. 

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi ac yn annog arloesedd ac entrepreneuriaeth drwy ein Canolfan Entrepreneuriaeth bwrpasol.  Mae tîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i gynnig cymorth a mentora un i un i fyfyrwyr a graddedigion sydd â diddordeb mewn dechrau busnes. Rydyn ni’n cynnal ystod eang o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn ac yn ceisio llywio unigolion drwy gamau gwahanol y broses o gynllunio busnes a’r opsiynau ariannu ar gyfer busnesau newydd sbon”.

Oes gan eich syniad chi botensial? Beth am gyflwyno eich cais drwy anfon tudalen am eich busnes at hello@bethespark.info erbyn 10fed o Fedi.