Hwb busnes newydd yn dod â phrifysgol a busnes ynghyd

Yr wythnos hon (Medi 18) ym Mhrifysgol De Cymru, lansiwyd cysyniad hwb busnes newydd, sy'n cyfuno anghenion busnesau bach a chanolig â sgiliau academia.

Mae Cyfnewidfa USW, sy'n cael ei noddi gan Barclays, yn siop un stop i fusnesau sydd am fanteisio ar y dalent yn y Brifysgol, gan ddarparu cyngor a chymorth busnes gan gynnig profiad unigryw i fyfyrwyr ar yr un pryd.

Yn siarad yn y digwyddiad lansio, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith: "Gan ddilyn egwyddorion craidd 'Creu'r Sbarc', rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gydag eraill i greu'r amodau cywir yng Nghymru i fusnesau a thalent entrepreneuraidd ddatblygu a ffynnu, ac mae gwneud yn siŵr bod ganddynt fynediad i dalent newydd yn y farchnad lafur yn rhan allweddol o hynny.

"Mae'r cyfleuster newydd hwn yn darparu amgylchedd delfrydol i fyfyrwyr fagu gwell dealltwriaeth o'r sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen yn y gweithle, a bydd yn galluogi busnesau'r ardal i elwa ar y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt i helpu i ddatblygu eu mentrau a chydweithio'n agosach ag academia."

Yn ogystal â chefnogi'r economi leol, mae Cyfnewidfa USW yn galluogi myfyrwyr i ennill y profiad bywyd go iawn gwerthfawr o weithio ar brosiectau byw'r diwydiant.

Trwy'r Student Consultancy Firm, mae myfyrwyr yn cael eu cyfateb i gwmnïau sy'n chwilio am eu sgiliau penodol nhw. Mae pob myfyriwr yn gweithio ochr yn ochr ag academydd goruchwyliol ar brosiectau byw.

Dywedodd Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Prifysgol De Cymru, ac aelod o banel Creu'r Sbarc: "Cyfnewidfa USW yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n agor drysau i fusnesau ddod i'r Brifysgol a nodi'r wybodaeth, y profiad a'r arbenigedd sydd ei angen arnynt i helpu eu busnesau i dyfu.

"Mae modd i fusnesau ddefnyddio Canolfan Cyfnewidfa USW ar gampws Trefforest fel man i gydweithio a rhyngweithio. Mae'n lle gwych i gefnogi busnesau newydd ac i ehangu rhai sy'n bodoli eisoes, ac yn rhywle i sefydlu cysylltiadau rhwng y diwydiant a graddedigion dawnus."

Dywedodd Siwan Rees, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa USW: "Hanfod Cyfnewidfa USW yw mynd i'r afael â heriau heddiw drwy ddatblygu sgiliau myfyrwyr y dyfodol. Mae'r fenter arloesol hon, sydd wedi cael ei datblygu ym Mhrifysgol De Cymru, yn anelu at gysylltu academia â'i chymuned, a phontio'r bwlch rhwng busnesau a'n harbenigedd academaidd. Rydyn ni'n awyddus i ddatblygu busnesau myfyrwyr a chefnogi myfyrwyr yn yr yrfa o'u dewis."

Am fwy o wybodaeth am Gyfnewidfa USW, cliciwch yma.