Hacathon 'Caredigrwydd' Canolbarth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â materion lleol

Mae Hac Caredigrwydd yn ddigwyddiad gyda gwahaniaeth - defnyddir fel arfer i gael grŵp o raglenwyr technoleg at ei gilydd i ddatrys problemau'r diwydiant - y dasg yn yr hacathon hon yw canfod datrysiadau ar gyfer materion cymdeithasol lleol i helpu cymunedau Canolbarth Cymru.

Inside Newtown Ent Hub

Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd wedi gweithio gyda Chanolfan Gydweithredol Cymru, sy'n rhedeg y rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru - Dechrau Newydd, wedi'i hariannu gan ERDF, er mwyn cynnal yr hacathon hon ar-lein. Yr uchelgais? I ddefnyddio menter gymdeithasol i greu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer materion lleol. Bydd yn canolbwyntio ar ystod o faterion lleol, sydd wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.

Mae 'Hac Caredigrwydd' yn ddigwyddiad allweddol a gynhelir rhwng 24 Medi a 1 Hydref. Bydd cyfranogwyr yn derbyn briff cyn gwahanu yn ddau dîm i ymchwilio a datblygu eu syniadau. Bydd y timau'n cyfarfod ar-lein ar gyfer gweminarau a sesiynau panel arbenigol ar sut i gychwyn menter gymdeithasol. Bydd yr wythnos yn dod i ben gyda chyflwyniad i banel o feirniaid.

Mae’r trefnwyr yn chwilio am gyfranogwyr o bob ardal yn y gymuned. Nid oes angen profiad o fusnes neu fenter gymdeithasol; dim ond angerdd i wneud gwahaniaeth, gweithio gydag eraill i ddechrau prosiect newydd fydd yn elwa'r gymuned.

Dywedodd Holly Jones, Dirprwy Reolwr Cymunedol ar gyfer Hwb Menter Ffocws y Drenewydd:

"Ar ôl i mi fynychu Hac Caredigrwydd yn Wrecsam fis Chwefror, cefais fy ysbrydoli gan y lefel o frwdfrydedd ac ansawdd y syniadau, ac roedd yn rhywbeth roeddwn eisiau ei ail greu yn Hwb y Drenwydd. Mae'r pandemig byd-eang wedi newid y darlun mewn nifer o gymunedau yn sylweddol drwy ddwysau materion cymdeithasol presennol a chreu materion cyffelyb newydd. Rydym yn credu ei fod yn amser perffaith i lansio hac digidol, gan roi cyfle i bobl weithio gyda'i gilydd i greu syniadau busnes ac arloesiadau sy'n targedu'r problemau hyn.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru - Dechrau Newydd ar y digwyddiad arloesol hwn, i helpu i gynhyrchu syniadau newydd, eu troi yn gynlluniau cadarn i greu busnesau sy'n ymarferol, cynaliadwy ac yn gallu gwneud gwahaniaeth parhaus yng nghymuned Canolbarth Cymru a thu hwnt."

Dywedodd Martin Downes, Swyddog Entrepreneuriaeth Gymdeithasol ar gyfer Busnes Cymdeithasol Cymru:

“Mae'r syniad 'Hac Caredigrwydd' eisoes wedi bod yn llwyddiant yn Wrecsam drwy ddod a'r gymuned ynghyd mewn ffordd gadarnhaol. Rydym ar ben ein digon cael cyflwyno'r digwyddiad ar-lein ar draws Canolbarth Cymru. Rydym yn tynnu pobl a sefydliadau arbennig o'r ardal ynghyd i wneud newid cadarnhaol drwy ddefnyddio sgiliau entrepreneuraidd, arloesedd, ymrwymiad cymunedol a meddylfryd masnachol i greu gwerth a newid cymdeithasol. Ceir amgylchedd perffaith yn Hac Caredigrwydd i gael pobl i weithio gyda'i gilydd a chanfod datrysiadau creadigol i'r problemau sy'n ein hwynebu ni, ac rydym ar bigau i weld y canlyniadau.”

Cynhelir y digwyddiad yn Hwb Menter y Drenewydd, a bydd yn cael ei redeg mewn cydweithrediad rhwng Busnes Cymdeithasol Cymru, Cyngor Sir Powys, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Ceredigion, Coleg y Drenewydd, Syniadau Mawr Cymru, a UnLtf, yn ogystal â hyfforddwyr ac arbenigwyr lleol.