Gweithwyr proffesiynol yn Abertawe yn lansio ail gylch o’u Dosbarthiadau Meistr llwyddiannus mewn Twf Busnes

Mae prosiect Cycle 2 yn rhoi cymorth a chyngor busnes i egin entrepreneuriaid yn Ne Cymru sydd o ddifrif am ddatblygu eu busnes gyda’r nod o’i dyfu.

Mae pob sesiwn yn cynnwys panel o gynghorwyr busnes arbenigol (Gerald Thomas Chartered Accountants, Thomas Carroll, Banc Datblygu Cymru, Lloyds Bank, Douglas-Jones Mercer Solicitors a Dyfodol Bae Abertawe). Byddant yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiad er mwyn cynorthwyo yng nghynlluniau twf y busnes yn y dyfodol. Byddant yn dangos pa gamgymeriadau cyffredin i’w hosgoi ac yn rhoi canllawiau i'r busnes ar sut mae tyfu’n llwyddiannus.

Mae’r dosbarthiadau meistr yn cynnwys 6 sesiwn fer ac maent yn cynnwys trafodaeth wedi’i hwyluso sy’n canolbwyntio ar bynciau busnes allweddol. Bydd y busnesau sy’n bresennol yn cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth a'i harwain.

Mae’r prosiect yn darparu cyfleoedd pwysig i fusnesau gael cyngor arbenigol am ddim.  Yn ogystal â hyn, bydd cyfle i greu cysylltiadau parhaus â busnesau eraill mewn meysydd gwahanol sy’n anelu at yr un nodau â chi ac yn meddwl yr un fath â chi.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at chris.jenkins@geraldthomas.co.uk