Gareth Jones, Canolfan Arloesi Menter Cymru

Mae gan Gareth brofiad uniongyrchol o’r rhwystredigaethau sy’n gysylltiedig â sefydlu busnes newydd. Heb lwyddo i gael y gefnogaeth oedd ei hangen ar gyfer ei fusnes newydd gan gynlluniau cefnogi busnesau traddodiadol, gwelodd mai’r gymuned o entrepreneuriaid ifanc oedd fwyaf parod i gynnig cefnogaeth i’w gilydd.  Bu hyn yn gymorth iddo ddatblygu ei farn bod ffordd arall o helpu i greu a chefnogi entrepreneuriaeth mewn modd mwy cynaliadwy nag oedd ar gael ar y pryd.

Y tu allan i’r Ganolfan, mae’n ymwneud â nifer o weithgareddau yn cynnwys rôl ar fyrddau Cardiff Start, Cyflymydd Effaith Prifysgol Caerdydd, y cwmni technoleg newydd Properr, menter gymdeithasol RecRock ac mae wedi bod yn ymwneud â byrddau Pwyllgor Arloesi Rhanbarth Dinas Caerdydd, prosiect TaffLab yr RSA, Venturefest Cymru ac mae’n un o Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru.

Gweithio ar dy ben dy hun neu fel rhan o dîm?

Rwy’n credu bod angen cydbwysedd.  Dwi’n hoffi meddwl am syniadau ar fy mhen fy hun, ac yna eu hasesu a’u cymryd yn ddarnau cyn eu hailadeiladu gyda gweddill y tîm.

Beth sy’n gwneud i ti godi o’r gwely ar fore Llun?

Yn bennaf, ddim eisiau siomi neb sydd wedi trefnu apwyntiad gyda fi! Byddwn i’n fwy na pharod i ddechrau’n hwyr a gweithio’n hwyr, ond yn aml iawn does gen i ddim dewis!

Y bore neu'r nos?

Rydw i’n fwy o aderyn y nos, ond mae bod yn y swyddfa cyn pawb arall a chyflawni pethau yn eich helpu i deimlo’n arbennig o gynhyrchiol wrth wynebu gweddill y diwrnod.

Apple neu Samsung?

Apple...rydw i’n cael fy sugno fwyfwy i mewn i’w ecosystem!

Pa rinwedd sydd ei hangen ar entrepreneur, yn dy farn di?

Gwytnwch. Os oes rhaid i chi ddelio bob dydd â’r anawsterau sy’n dod law yn llaw â bod yn entrepreneur, yna mae angen i chi wybod y byddwch chi’n goroesi.

Y gaeaf neu'r haf?

Y gwanwyn - amser adnewyddu! Os nad yw hynny’n ateb y cwestiwn, yna yr haf. Mae gallu treulio cymaint o amser â phosib y tu allan yn grêt.

Beth fyddet ti’n ddweud wrthyt ti dy hun yn 16 oed?

Bydd yn hapus dy fod yn od.  Fe wnes i dreulio cymaint o amser yn ceisio darganfod pam nad oeddwn i’n cydymffurfio, fel nad oeddwn i’n sylweddoli nad oedd rhaid i fi gydymffurfio mewn gwirionedd.

Beth yw dy brif gyflawniad?

O ran boddhad cyffredinol, rhaid i fi ddweud y Ganolfan Arloesi Menter.  Byddai’n anodd dewis un cyflawniad penodol, ond bob tro rydyn ni’n tyfu rhyw fymryn, mae’n teimlo fel pe baem yn cael effaith go iawn.

Noson allan fawr neu noson dawel i mewn?

Fel ym mhob agwedd, mae cydbwysedd yn bwysig, ond mae noson allan fawr gyda’r ffrindiau iawn yn gwneud i mi wenu.

Sut wyt ti'n treulio dy amser hamdden?

Cymysgedd o arddio, gemau fideo a darllen, ond mae’r rhan fwya’ o f’amser hamdden bob wythnos yn cael ei dreulio ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a dydy hynny ddim yn rhy ddrwg. 

Te neu goffi?

Rydw i’n eithaf strategol gyda sut dwi’n defnyddio coffi, felly fe ddyweda i mai te yw fy ffefryn.

Beth sy’n dy ysbrydoli di?

Heriau mawr - a rhywun yn dweud wrtha i eu bod yn amhosib.

Dan do neu'r awyr agored?

Yr awyr agored - o ddewis byddwn i’n cerdded yn ddi-nod o amgylch dinas newydd.

Beth yw dy hoff beth di am dy swydd?

Y bobl.  Rydw i’n cael cwrdd â phobl anhygoel, a phan fyddwch chi’n treulio cymaint o amser gyda phobl sy’n ymrwymedig i gael effaith fawr, mae’n eich gwneud chi’n fwy egnïol.

Pryd cartref neu decawê?

Pryd cartref, bob tro.

Beth yw dy hoff ffilm, rhaglen deledu neu bodlediad?

Rydw i wrth fy modd â’r podlediad Improv4Humans. Rydw i’n credu bod entrepreneuriaid, os nad y rhan fwyaf ohonom, yn gallu dysgu llawer gan ddigrifwyr byrfyfyr. O ran y teledu, rydw i’n tueddu i wylio rhaglenni comedi disynnwyr fel Arrested Development neu Always Sunny.