Ganddi’r Gallu i Gychwyn - Pan ddaw merched grymus ynghyd, mae pethau arloesol yn digwydd

Yn ôl 'The Alison Rose Review of Female Entrepreneurship', dim ond un ym mhob tri o entrepreneuriaid yn y DU sy'n ferched. Mae'r tîm yn Hwb Menter Ffocws y Drenewydd yn gweld hyn fel cyfle gwych i sbarduno newid, ac wedi ymuno â pherchnogion busnes ysbrydoledig ledled Cymru a BeTheSpark i gynnal 'Ganddi’r Gallu i Gychwyn' – cynhadledd rithwir sy'n ymwneud ag ysbrydoli menywod i lansio eu busnes eu hunain.

She Can Start

Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar 26 Chwefror 2021 rhwng 10:00 a 15:30 a bydd yn cynnwys siaradwyr sydd wedi ennill gwobrau gan gynnwys: enillydd The Apprentice 2016 y BBC a sylfaenydd Ridiculously Rich by Alana, Alana Spencer, Shann Jones, perchennog The Chuckling Goat, siaradwr TEDx a mentor marchnata rhyngwladol, Teresa Heath-Wareing, Gaynor Morris o Fanc Datblygu Cymru a Lee Morgan o NatWest.

Dywedodd Holly Jones, Rheolwr Hwb Menter Ffocws y Drenewydd:

"Mae'r digwyddiad hwn wedi bod yn hir yn dod ac yn rhywbeth rydyn ni'n gyffrous iawn i'w rannu gyda phawb. Mae gennym linell anhygoel o fenywod busnes ysbrydoledig a llwyddiannus yn ymuno â ni wrth i ni ddathlu ac annog menywod mewn busnes. Byddwn yn siarad am bopeth o farchnata i fynediad at gyllid – rhywbeth sydd wedi'i nodi fel un o'r rhwystrau mwyaf y mae menywod yn ei wynebu mewn busnes."

Wedi'i gynllunio i gefnogi menywod yn y gymuned leol sy'n chwilio am ysbrydoliaeth, sydd am gysylltu â menywod eraill a meithrin perthynas â phobl o'r un anian, mae'r gynhadledd hon yn cael ei hariannu'n llawn ac yn agored i'r rhai ym Mhowys, Ceredigion a Chanolbarth Cymru. Mewn partneriaeth â BeTheSpark, byddwn yn dwyn ynghyd entrepreneuriaid eithriadol, meddyliau busnes blaenllaw a darparwyr gwasanaethau deinamig i gysylltu, dysgu a rhannu arfer gorau.

“Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o ddigwyddiad mor wych i ddathlu entrepreneuriaeth ymysg merched yng Nghymru. Fel perchennog busnes fy hun, gwn pa mor anodd y gall fod i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Edrychaf ymlaen at siarad ochr yn ochr â’r pedair dynes anhygoel arall, ac rwyf mor falch ein bod yn parhau i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddigidol er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19, ac yn gallu cyrraedd mwy o ferched,” dywedodd Alana Spencer, perchennog Ridiculously Rich by Alana.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd rithwir ragorol hon drwy chwilio 'Hwb Ffocws Menter y Drenewydd' ar Chwilotwr Digwyddiadau Busnes Cymru.

Mae Canolfan Menter Ffocws y Drenewydd yn lle arloesol i annog a chyflymu busnesau newydd a busnesau sy'n tyfu yn Royal Welsh Warehouse, y Drenewydd, Powys. Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.