DEG PODLEDIAD Y DYLAI POB ENTREPRENEUR WRANDO ARNYNT...

HOW I BUILT THIS

Yn y podlediad hwn, mae Guy Roz yn cyfweld sefydlwyr cwmnïau adnabyddus i gael gwybod o ble maent yn cael eu hysbrydoliaeth. Mae’r cwmnïau'n cynnwys Spanx, Instagram a Whole Foods.

 

TEDTALKS AUDIO

Mae TED yn sefydliad di-elw sydd wedi ymrwymo i straeon, syniadau a negeseuon. Mae’r podlediad hwn yn rhannu recordiadau sain o areithiau gan grŵp dethol o siaradwyr.

 

#GIRLBOSS RADIO

Byd ffasiwn yw byd Sophia Amoruso, ac mae hi wedi datblygu ei siop ar eBay yn ymerodraeth ffasiwn fyd-eang. Mae’r ‘GirlBoss’ hon yn cyfweld merched eraill ym myd busnes yn y podlediad anffurfiol hwn.

 

FT STARTUP STORIES

Mae Jonathan Moules o’r Financial Times yn trafod popeth o ddatblygu brandiau llwyddiannus i rowndiau cyllido ac ailadeiladu yn sgil methdaliad.

 

THE PITCH

Entrepreneuriaid go iawn yn gwneud cynigion i fuddsoddwyr go iawn — am arian go iawn. Yn y podlediad hwn, maent yn mynd y tu ôl i’r llenni i weld y foment dyngedfennol honno pan fydd egin entrepreneuriaeth yn rhoi’r cyfan yn y fantol.

 

STARTUP PODCAST

Sgyrsiau gonest a doniol ynghylch cychwyn busnesau newydd. Ceir llawer o wirioneddau yn y podlediad hwn. Maent yn taflu goleuni ar bethau da a drwg am ddechrau eich busnes eich hun.

 

COFFEE BREAK SPANISH/ FRENCH/ GERMAN/ ITALIAN/ CHINESE

Os ydych chi erioed wedi ystyried mynd i’r afael â dysgu iaith newydd, yna hwn yw'r podlediad i chi! Gallwch wrando a dysgu wrth i chi yfed eich coffi yn y bore, ac mae dewis o bum iaith wahanol.

 

PETHAU Y DYLECH EU GWYBOD

Mae’r podlediad hwn yn gwneud yn union yr hyn mae’n ei ddweud. Mae pob pennod yn dysgu rhywbeth newydd i chi, o bethau defnyddiol a diddorol, i bethau cwbl ryfedd - mae’r podlediad hwn yn sicr o roi hwb i’ch sgôr cwis tafarn.

 

THE TIM FERRISS SHOW

Gyda thros 250 o benodau, mae Sioe Tim Ferriss wedi llwyddo i newid bywyd rhai gwrandawyr. Ydi’r sioe’n haeddu'r fath glod? Bydd rhaid i chi wrando er mwyn cael gwybod.

 

SOCIAL PROS PODCAST

Yn y podlediad hwn, mae arbenigwyr ym maes cyfryngau yn cael eu cyfweld am y gwaith maen nhw wedi’i wneud i gwmnïau. Maen nhw hefyd yn trafod y tueddiadau a’r syniadau mewn meysydd cymdeithasol, ac yn gorffen drwy holi’r gwestai.