DEG LLYFR Y DYLAI POB ENTREPRENEUR EU DARLLEN...

REWORK – FRIED & HEINEMEIER HANSSON

Mae technoleg a oedd yn arfer bod yn rhy ddrud bellach ar gael i bawb wrth glicio ar lygoden, mae gwybodaeth a oedd yn arfer cael ei rhannu ymysg rhai bellach ar gael am ddim i’r boblogaeth, ac mae syniadau a oedd yn arfer cael eu hystyried fel rhai amhosib yn rhan o’r bywydau bob dydd. Mewn gair, mae’r amser yn newid, ac mae’n haws nag erioed dechrau eich taith entrepreneuraidd. I gyd-fynd â’r cyfnod hwn o newid, mae Rework yn llyfr perffaith a fydd yn eich helpu chi hefyd i newid y ffordd rydych chi’n gweithio, a hynny am byth.

 

AWAKE AT WORK – MICHAEL CARROLL

Yn Awake at Work, mae Michael Carroll yn dangos i ddarllenwyr sut mae chwistrellu rhywfaint o ddoethineb Bwdhaidd i’w bywyd gwaith drwy gael gwared ar waith caled, rhwystredigaeth a phryderon yn y gweithle er mwyn sicrhau cyfleoedd i deimlo'n dda, yn fodlon ac yn hapus bob dydd. Mae’n llyfr pwerus y dylai pob entrepreneur sydd am wneud y gorau o’r diwrnod ystyried ei ddarllen.

 

DELIVERING HAPPINESS – TONY HSIEH

Mae Tony Hsieh yn gosod diwylliant cwmni ar frig ei restr o flaenoriaethau. Dyma rywbeth sydd wedi gweithio’n wych ar gyfer Zappos, sef ei gwmni manwerthu sy’n gwneud dros $1 biliwn y flwyddyn o’r nwyddau maen nhw’n eu gwerthu. Yn ei lyfr treiddgar, mae’r entrepreneur yn rhannu ei lwyddiannau, ei fethiannau a’r hyn mae wedi’i ddysgu ar hyd y daith, a sut mae ei ymagwedd newydd at ddiwydiant sefydliadol wedi dod yn fodel o lwyddiant ei fusnes.

 

THE RELUCTANT ENTREPRENEUR – MICHAEL MASTERSON

Mae The Reluctant Entrepreneur yn ymchwilio i’r ofnau a’r camddealltwriaeth sy'n rhwystro llawer rhag bod yn entrepreneuriaid. Mae’r llyfr hwn yn cyflwyno strategaethau cadarn Masterson fel astudiaethau achos, ac mae’n ffynhonnell hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd am osgoi rhwystrau, heriau a pheryglon sy’n bygwth cwmnïau sy’n dechrau arni.

 

START WITH WHY – SIMON SINEK

Mae Start with Why gan Sinek wedi prysur ddod yn ffenomenon fyd-eang – does dim rhyfedd mai ei sgwrs TED, sy’n dwyn yr un enw, yw’r drydedd sgwrs fwyaf poblogaidd erioed. Yn ei lyfr, mae Sinek yn edrych ar arweinwyr gwych drwy gydol hanes – o Martin Luther King Jr i Steve Jobs – ac yn nodi eu bod nhw i gyd wedi dechrau ar eu taith drwy ganolbwyntio ar y ‘pam’ hwnnw oedd yn eu sbarduno. Dyma lyfr hanfodol i entrepreneuriaid ar unrhyw gam o’u taith.

 

POSITIONING – JACK TROUT

Dyma lyfr diddorol sy’n cyflwyno astudiaethau achos gwerthfawr, straeon personol a straeon am rai o’r llwyddiannau a'r methiannau mwyaf rhyfeddol yn hanes hysbysebu. Mae dadansoddiad Trout yn allweddol ar gyfer marchnatwyr ac unrhyw un sy’n mentro i fyd busnes.

 

SHE MEANS BUSINESS – CARRIE GREEN

Dechreuodd Carrie ei busnes ei hun yn 20 oed, ac mae ganddi brofiad o’r radd flaenaf wrth lywio’r ofnau, y pryderon a’r heriau brawychus sy’n rhwystro llawer o entrepreneuriaid rhag llwyddo. Os ydych chi’n greadigol, yn uchelgeisiol ac yn fenyw sy’n entrepreneur, neu os ydych chi’n ystyried dilyn trywydd entrepreneuraidd, mae’r llyfr hwn yn rhoi golwg di-flewyn-ar-dafod ar hyn sydd ei angen i wireddu eich gweledigaeth fusnes.

 

PIVOT – JENNY BLAKET

Yn yr economi ‘ar-alw’ sydd ohoni heddiw, pedair blynedd yw cyfnod pob swydd ar gyfartaledd - ac mae’r ffigur hwnnw’n gostwng yn gyflym. Yn Pivot, mae Jenny Blake, cyd-grëwr rhaglen ‘Career Guru’ Google, yn dysgu entrepreneuriaid a chenhedlaeth y mileniwm sut i fanteisio ar eu hasedau er mwyn sicrhau gyrfa ystyrlon sy'n rhoi boddhad.

 

BIG MAGIC – ELIZABETH GILBERT

Beth bynnag fo’ch nod – boed yn ysgrifennu eich nofel eich hun, dechrau eich busnes eich hun neu greu celfyddyd - mae Big Magic yn llyfr addas ar eich cyfer chi. Mae Gilbert yn rhannu ei hanawsterau a'i llwyddiannau ei hun, ac yn herio'r darllenwyr i ymhyfrydu yn eu chwilfrydedd a mynd ar drywydd eu breuddwydion wrth wynebu ofnau.

 

THE INNOVATOR’S DILEMMA – CLAYTON M. CHRISTENSEN

Mae hwn yn llyfr clasurol ar gyfer pob entrepreneur, ac mae campwaith Clay Christensen ar arloesi aflonyddgar yn parhau i fod yn sail i rai o’n prif arweinwyr a’n sefydliadau ni heddiw. Ni waeth beth fo’r diwydiant, dadleua Christensen, bydd cwmni llwyddiannus sydd â chynnyrch cadarn yn cael ei wthio o’r neilltu oni bai fod ei reolwyr yn gwybod sut a phryd i gefnu ar arferion busnes traddodiadol. Dylai pob rheolwr, arweinydd, ac entrepreneur ddarllen y llyfr hwn.