Defnyddiodd hacathon ‘Caredigrwydd’ Wrecsam arloesedd i ddatrys materion lleol

Ymunodd Hwb Menter Wrecsam â Chanolfan Cydweithredol Cymru i gynnal digwyddiad hacathon gyda'r nod o ddefnyddio menter gymdeithasol i greu atebion cynaliadwy i faterion lleol.

Group work at Wrexham Ent Hub

Cynhaliwyd digwyddiad am ddim, sef yr ‘Hac Caredigrwydd’ yn yr Hwb ar Ffordd Rhosddu ddydd Iau'r 5ed o Fawrth.

Gan ddechrau am wyth y bore, rhoddwyd briff i dimau cyn gwahanu ar draws gofod cydweithio’r Hwb i ymchwilio a datblygu eu syniadau, a fyddai’n arwain at gyflwyno cais i banel o feirniaid y noson honno. Roedd sgyrsiau, arweiniad a gweithdai ysbrydoledig ynghyd â brecwast, cinio a swper i’w hysbrydoli!

Roedd yr Hacathon yn Wrecsam yn canolbwyntio ar ystod o faterion lleol, megis arwahanrwydd cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd a digartrefedd. Rhoddwyd deuddeg awr i'r cyfranogwyr ymchwilio a nodi problem neu fater cymdeithasol ac yna creu prosiect, cynnyrch neu wasanaeth a allai ei ddatrys. Derbyniodd y tîm buddugol wobr, ynghyd â chefnogaeth i ddod â'u syniad yn fyw a sefydlu menter gymdeithasol newydd.

Meddai Carl Turner, Rheolwr Cymunedol yn yr Hwb: “Rhan fawr o’r hyn rydym yn ei wneud yn yr Hwb Menter yw helpu pobl i gychwyn busnesau fel y gallant fod yn gyfrifol am eu bywydau eu hunain, a chwarae rhan yn yr economi ehangach. I wneud hynny, rydym yn helpu unigolion i nodi problem y gallant ei datrys neu wasanaeth y gallant ei gynnig, a'u helpu i ddatblygu busnes i ddiwallu'r anghenion hynny. 

“Mae digwyddiadau fel Hacathon wedi'u cynllunio i wneud hynny ond mewn cyfnod dwys o amser. Gyda'r ffocws a'r amgylchedd cywir, gall meddyliau talentog gynnig syniad neu arloesedd a all ddatblygu i wneud gwahaniaeth parhaol. Rydym yn awyddus i weld pa atebion y gall y ffordd greadigol hon o weithio eu datblygu, ac rydym yn gyffrous i'w weld yn canolbwyntio ar ddatrys materion lleol. ”

Yn nodweddiadol, mae hacathon yn ddigwyddiad lle mae datblygwyr meddalwedd, dylunwyr graffig a rheolwyr prosiect yn cydweithredu dros gyfnod o amser i greu darn gweithredol o galedwedd neu feddalwedd sy'n datrys problem. Mae'r cysyniad wedi'i fabwysiadu ar draws sectorau a heddiw mae'n cynrychioli casgliad o feddyliau yn gweithio ar y cyd i greu datrysiad neu gynnig i broblem benodol.

Meddai Martin Downes, Swyddog Entrepreneur Cymdeithasol Canolfan Cydweithredol Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb ar gyfer yr Hacathon yn Wrecsam, gyda dros 60 o bobl eisoes wedi cofrestru i fod yn bresennol. Rydym yn dwyn pobl wych a sefydliadau gwych o'r ardal ynghyd i ddefnyddio entrepreneuriaeth, arloesi a dulliau marchnad i greu gwerth cymdeithasol a newid. Mae'r Hacathon yn amgylchedd perffaith i hwyluso'r dull hwn sy'n canolbwyntio ar atebion i ddatrys problemau ac ni allwn aros i weld y canlyniadau."

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Hwb Menter Wrecsam a'i redeg mewn cydweithrediad â Busnes Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, Syniadau Mawr Cymru, UnLtd, a Chyngor Wrecsam, yn ogystal â hyfforddwyr ac arbenigwyr lleol.

Mae Hwb Menter Wrecsam yn un o bum canolbwynt ledled Cymru a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a bydd yn gweld dros £4m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu lleoedd cefnogol a mentora i fusnesau newydd a rhai sy'n tyfu.

Canolfan Cydweithredol Cymru yw’r corff cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol, mentrau cymdeithasol a busnesau sy’n eiddo i weithwyr. Ers 1982, mae'r Ganolfan wedi defnyddio ei gwerthoedd cydweithredol i gryfhau a grymuso cymunedau trwy gefnogi twf cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Ar Ionawr 1af lansiodd Canolfan Cydweithredol Cymru raglen newydd sbon i annog darpar entrepreneuriaid yng Nghymru i sefydlu busnesau cymdeithasol newydd. Nod y prosiect, a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yw creu 250 o fusnesau cymdeithasol newydd sbon yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf, gan ddarparu swyddi o safon a gwasanaethau hanfodol wedi'u hangori mewn cymunedau.

Ers ei lansio ym mis Mai 2018 mae'r Hwb Menter wedi cynnal mwy na 65 o ddigwyddiadau ac wedi cefnogi mwy na 300 o unigolion a busnesau. Yn ogystal â galluogi busnesau i ddechrau, mae'r tîm yn Wrecsam wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu ei aelodau i dyfu, a hyd yma mae mentrau yn yr Hwb wedi codi mwy na £800k mewn buddsoddiad ac wedi creu swyddi.