De Cymru'r Brifysgol Yn Sefydlu Deorydd Yng Nghaerdydd I Gefnogi Entrepreneuriaid Graddedig

Mae Prifysgol De Cymru (USW) wedi agor yr uned hybu neilltuedig gyntaf mewn prifysgol yng Nghymru ar ei champws yng Nghaerdydd

USW Incubator

Drwy gymorth ariannol cychwynnol gan Gronfa Ymgysylltu Dinesig Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), mae’n ceisio cynnig cyfleusterau hybu cyn-fasnachol i 150 o fusnesau bach a chanolig o dan arweiniad graddedigion dros y pum mlynedd nesaf, drwy ddarparu 18 desg, pedair swyddfa a mannau desg boeth ar gyfer hyd at 20 o raddedigion.

Am lai na £6 y dydd, bydd busnesau'n gallu defnyddio'r uned hybu am hyd at 12 mis. Y nod yw helpu entrepreneuriaid i raddio i safleoedd cydweithio eraill o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Bydd y rhai a leolir yn Stiwdio Start-up yn derbyn cymorth drwy strategaeth entrepreneuriaeth USW, a ariannir gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at raglenni megis y Clwb 9–5, StartUP USW a diwrnodau Start-Up Yn ogystal, bydd yr holl denantiaid yn cael eu cofrestru ar fŵtcamp yr uned hybu, sef rhaglen ddwys o gymorth cychwynnol ar gyfer cwmnïau newydd.

Er bod pob syniad busnes yn cael ei groesawu, i ddechrau bydd y Stiwdio Start-Up yn canolbwyntio ar gefnogi busnesau creadigol a digidol i fanteisio i'r eithaf ar y cysylltiadau â Chyfadran Diwydiannau Creadigol USW, sydd ar Gampws Caerdydd.

Fel rhan o'r broses o annog cysylltiadau â chwmnïau allanol, mae nifer o sefydliadau – gan gynnwys cwmni United Worldwide Logistics o Ben-y-bont ar Ogwr, cwmni sy'n tyfu'n gyflym, a'r cynhyrchwyr teledu mawr Bad Wolf – yn cynnig ysgoloriaethau i dalu holl gostau blynyddol entrepreneuriaid graddedig. Mae amrediad o fusnesau eraill hefyd yn cynnig cyngor, mentora a chymorth yn rhad ac am ddim i'r rhai yn Stiwdio Start-Up.

Syniad yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Entrepreneuriaeth Cynorthwyol USW yw'r uned hybu. Dywedodd ei fod yn credu y bydd y cysylltiadau sy'n cael eu gwneud ag eraill sy'n gweithredu o fewn yr ecosystem entrepreneuraidd leol yn helpu i hybu mentergarwch o fewn y Brifysgol.

"Mae'r Stiwdio Start-Up yn dangos unwaith eto fod entrepreneuriaeth yn ganolog i bopeth rydyn ni'n ei wneud ym Mhrifysgol De Cymru", dywedodd yr Athro Jones Evans.

"Yn bwysicach byth, nid ydyn ni'n gwneud hyn ar ein pennau ein hunain, a dw i wrth fy modd nid yn unig fod cwmnïau entrepreneuraidd lleol yn cynnig cymorth i'n graddedigion, ond hefyd fod busnesau fel NatWest ac OrangeBox hefyd wedi rhoi dodrefn i Stiwdio Start-Up.

"Mae hyn yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ein hadnoddau ar gefnogi'r bobl ifanc hyn sydd am fod yn entrepreneuriaid y dyfodol."

Yn ôl Yr Athro Julie Lyndon, Is-Ganghellor USW, mae angen i addysg uwch yng Nghymru wneud mwy i annog entrepreneuriaeth ymhlith ei myfyrwyr.

"Mae llawer o resymau pam y dylai prifysgolion chwarae rhan fwy gweithredol wrth hyrwyddo diwylliant entrepreneuraidd cryfach ac wrth symbylu entrepreneuriaeth, gan gynnwys annog pobl ifanc i fod yn fwy entrepreneuraidd a chefnogi graddedigion o bob disgyblaeth i fod yn entrepreneuriaid llwyddiannus â'u cwmnïau eu hunain", dywedodd Yr Athro Lydon.

"Dw i'n falch bod USW yn lansio cyfleuster neilltuedig a fydd yn ategu ein nod o ddatblygu'r graddedigion entrepreneuraidd hynny a fydd yn rhoi hwb i'r economi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd."