Cynnal Hacathon

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cynllunio eich Hacathon eich hun? Mae Sam Gibson, Rheolwr Gyfarwyddwr Enjovia a chyn Reolwr Datblygu Busnes yn Alacrity Foundation, yn datgelu ei awgrymiadau ar gyfer cynnal hacathon llwyddiannus.

 

Dros y blynyddoedd yn Alacrity Foundation rydym wedi cynnal amrywiaeth o hacathonau, gyda rhai yn fwy llwyddiannus na'i gilydd. Rydym wedi dysgu drwy brofiad bod rhywfaint o ofynion allweddol er mwyn sicrhau bod hacathon yn llwyddiannus. 

Cyn i mi ddechrau sôn am hynny, efallai nad yw rhai ohonoch sy'n darllen hwn yn gwybod beth yw hacathon hyd yn oed. Math o ddigwyddiad yw hacathon a ddechreuodd yn y diwydiant technoleg fel ffordd o newid trefn bob dydd gweithwyr a rhoi cyfle iddynt ddatrys problemau mewn modd creadigol. Fel arfer maent yn para diwrnod neu benwythnos. 

Mae hacathonau yn dod â dieithriaid at ei gilydd i weithio mewn timau i ddatrys problemau go iawn gyda rhywfaint o dechnoleg. Yn y gorffennol mae hyn fel arfer wedi golygu grŵp o bobl dechnolegol yn cloi eu hunain mewn ystafell am 24 awr gan yfed diodydd egni a bwyta pizza er mwyn creu prototeipiau technoleg diddorol. Ers hynny mae hacathonau wedi esblygu a byddwn yn cytuno y dylai’r diffiniad newydd o hacathon olygu digwyddiad wedi’i strwythuro sy'n annog ffyrdd creadigol o ddatrys problemau. 

Byddem yn defnyddio’r diffiniad hwn i ddisgrifio’r digwyddiad hacathon Creu Sbarc a gynhaliwyd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Daeth cynrychiolwyr o holl sectorau Cymru ynghyd i geisio datrys problemau yng Nghymru gyda syniadau a chreadigrwydd newydd.
Nid oes angen i hacathon fod yn seiliedig ar dechnoleg, ac mae rhai o'n hacathonau mwyaf diddorol yn Alacrity wedi bod yn gymysgedd o dimau disgyblaethau o ddatblygwyr, dylunwyr a phobl fusnes.  Ym mis Ebrill eleni cynhaliwyd hacathon yn Boston i ddod ag aelodau o’r gymuned ynghyd i fynd i’r afael â materion bywyd trefol. Roedd yr hacathon tensiynau Trefol yn ymdrin â phynciau o gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu troi allan o’u tai i fwy o geir yn defnyddio llwybrau beiciau. 

Fel arfer, wrth gynnal hacathon rydych eisiau cadw’r timau yn fach ac yn hyblyg gyda 3-5 o bobl mewn tîm. Mae hyn yn sicrhau bod syniadau'n symud yn gyflym ond bod pob aelod hefyd yn weithgar ac yn brysur. 

I ni yn Alacrity, mae 5 elfen hanfodol i sicrhau hacathon da:


1. Pwrpas clir

Os ydych chi erioed wedi eistedd mewn trafodaeth taflu syniadau penagored byddwch yn gwybod pa mor boenus yw rhoi hanner dwsin o bobl mewn ystafell gyda’i gilydd i drafod syniadau. Yn yr un modd â sesiwn taflu syniadau dda, mae angen cyfeiriad craidd mewn hacathon, ac mae angen i bawb sy'n cymryd rhan gael gwybod hynny. Un digwyddiad gwych mae ein graddedigion wedi cymryd rhan ynddo yn y gorffennol yw diwrnod hacio’r GIG. http://nhshackday.com/ 

Mae digwyddiad diwrnod hacio’r GIG yn glir o’r cychwyn - mae’n dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, gweithwyr technolegol, meddygon, nyrsys ac unrhyw un a chanddo ddiddordeb mewn gwella TG at ei gilydd i greu atebion newydd ar gyfer y GIG.  

Mae’r genhadaeth gref hon yn rhoi llawer o amser i rai a allai fod â diddordeb mewn bod yn bresennol feddwl am beth y gallant ei wneud. Mewn diwrnodau hacio’r GIG yn y gorffennol fe wnaeth llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyflwyno syniadau roeddent wedi meddwl amdanynt ers blynyddoedd a fyddai'n gwneud eu diwrnod gwaith yn haws ac yn rhatach. 


2. Nodi rheolau a strwythur clir

Dylai pob hacathon gael strwythur a rheolau. Dylai’r rheolau hyn hefyd gynnwys meini prawf beirniadu posib os yw’r hacathon am fod yn gystadleuol. 

Gall y rheolau gynnwys: cenhadaeth yr hacathon, strwythur y diwrnod, terfynau neu gyfyngiadau amser, maint a chyfansoddiad y timau, cyfyngiadau o ran beth y gellir ei ddefnyddio h.y. meddalwedd a lle gellir defnyddio ffynonellau / data.

Dylai pob tîm gael arweiniad gan arbenigwr o’r diwydiant neu'r pwnc. Bydda hacathon ar gyfer gweithwyr technolegol addysgol yn sicr o fod yn anodd heb gyfraniad athro neu ddarlithydd. 
Mae lleoliad ac amser yn bwysig. Caiff y rhan fwyaf o hacathonau eu cynnal dros y penwythnos er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i gynnwys pawb. 

Dylai’r lleoliad gynnwys ystafelloedd ymlacio, seddau priodol, Wi-Fi, a deunyddiau ar gyfer taflu syniadau, boed hynny'n fyrddau gwyn, yn bapur neu'n daflunydd, heb anghofio ystafell ymolchi wrth gwrs. 


3. Nodau Realistig

Gall rhai hacathonau arwain at ganlyniadau anhygoel - fe wnaeth grŵp meddygol MIT greu hacathon gyda'r nod o roi terfyn ar gyfradd marwolaethau babanod yn Wganda. Fe wnaeth yr hacathon hwn arwain at greu peiriant Adfywio Babanod Estynedig sydd â’r potensial i arbed miliynau o fywydau. Bydd y rhan fwyaf o hacathonau fel arfer yn cyflawni hanner beth mae disgwyl iddynt ei wneud, dim ond diwrnod sydd gennych wedi’r cyfan! 

Dylai’r nodau fod yn rhai cyraeddadwy yn bennaf oll. Rydym wedi gweld bod pennu disgwyliad ar gyfer prototeip sylfaenol neu greu cynllun busnes neu friff prosiect bras yn gweithio'n dda.  Mae’r rhain yn gweithio orau pan gânt eu cyflwyno gan y tîm ar ddiwedd y dydd. Pan fydd cynlluniau busnes, dyluniadau, modelau ffug a chyflwyniadau ar y gweill, gall pawb gymryd rhan. 


4. Bwyd a Hwyl

Os ydych chi’n cloi grŵp o bobl mewn ystafell drwy'r dydd yn gweithio ac yn meddwl yn galed mae'n rhaid iddynt gael rhywfaint o danwydd a’ch cyfrifoldeb chi yw ei ddarparu. Fel arfer rydym yn tanio barbeciw neu'n archebu pizza ac yn darparu faint bynnag a fynnir o ddiodydd poeth i sicrhau bod pawb yn dal ati. Ni fydd yn syndod i unrhyw un bod bwyd am ddim yn denu torf fwy!

Dylai hacathon da fod yn broses ddymunol a hwyliog, mae’n gyfle i wneud rhywbeth gwahanol i’r drefn arferol a gweithio gyda phobl newydd ar brosiectau newydd. Dyma’r math o beth rydym yn aml yn dymuno y gallwn ei wneud wrth gyflawni ein gwaith bob dydd. Fe welsom yn ddiweddar yn nigwyddiad cyntaf Creu Sbarc yng Nghaerdydd y cynnwrf y gall hyn ei greu. Cafodd y croestoriad o swyddogion corfforaethol, cyfalafwyr risg, entrepreneuriaid y llywodraeth ac academyddion drafodaethau bywiog, ystyrlon a diddorol â wynebau newydd. 

Yn Alacrity rydym yn torri’r diwrnod gyda heriau 5 munud cyflym. Nid yw hyn bob amser yn briodol, ond mae'n hwyl. Un o’n heriau mwyaf poblogaidd yw gwneud i bobl godio wrth wisgo mwgwd dros eu llygaid. Mae pob un ohonom yn ymgynnull i fwynhau gwylio’r cynigion.


5. Egni Cadarnhaol

Nid brwydr rhwng timau sy'n gwneud hacathon da, ond digwyddiad sy'n creu cymuned, yn croesawu pobl newydd ac yn darparu profiad dysgu i bawb sy'n cymryd rhan. Fel y soniais yn gynharach, mae’n anodd datrys problemau'r byd mewn diwrnod, ond gallwch yn sicr gymryd cam cyntaf i'r cyfeiriad iawn. Rydym yn defnyddio hacathonau yn bennaf yn Alacrity fel ffordd o sbarduno ein graddedigion eto. 

Mae hacathonau yn cynnig cyfle i ymarfer sgiliau, creu timau, datrys problemau go iawn, bywiogi sefyllfaoedd cyfarwydd a chael diwrnod llawn hwyl gyda’n gilydd. 

Am beth rydych chi’n aros? Dechreuwch gynllunio eich hacathon eich hun nawr! 

Wnewch chi ddim difaru!


Gwybodaeth am Alacrity 

Mae Alacrity Foundation yn rhaglen 12 mis unigryw sy'n darparu hyfforddiant busnes ymarferol, sgiliau meddalwedd a mentora i raddedigion er mwyn rhoi cyfle iddynt ddatblygu fel entrepreneuriaid a lansio eu cwmnïau technoleg eu hunain yn y DU.

Ynghyd ag ecosystem fyd-eang Alacrity, mae Alacrity Foundation yn y DU yn unigryw, gan mai dyma’r unig elusen addysgol sydd â swyddfeydd yn Tsieina, Canada, Ffrainc, Mecsico, India, Indonesia, Twrci a Singapôr. Cenhadaeth elusennol swyddfa’r DU yw mentora a hyfforddi graddedigion i greu’r genhedlaeth nesaf o gwmnïau uwch-dechnoleg yng Nghymru. Mae ein rhaglen 12 mis yn darparu'r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i redeg busnes technoleg newydd, proffidiol.


Gwybodaeth am yr Awdur

Tan yn ddiweddar iawn, roedd Sam Gibson yn Rheolwr Datblygu Busnes yn Alacrity Foundation. Roedd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ac yn helpu’r timau gyda phrosesau masnacheiddio a marchnata. Cyn ymuno ag Alacrity, bu'n gweithio ym maes gwerthu mewn nifer o gwmnïau yn y diwydiant cyllid. 

Gadawodd Sam uned Alacrity yn ddiweddar i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Enjovia - cwmni a wnaeth yntau ymgymryd â rhaglen Alacrity. Mae Enjovia yn llwyfan e-fasnach sy'n hwyluso ac yn cefnogi’r broses o werthu profiadau anrhegion, tocynnau a nwyddau ar gyfer sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu.