Cynllunio ecosystem weledol a syml sydd wedi’i chysylltu yng Nghymru

Mae gan CreuSbarc weledigaeth i greu ecosystem weledol, syml sydd wedi’i chysylltu i bawb yng Nghymru ei defnyddio. Ar ein cenhadaeth i gyflawni'r weledigaeth hon, rydyn ni wedi creu'r fersiwn cyntaf o’n glasbrint, sy’n cynnwys mannau cydweithio, hybiau cyflymu, gwasanaethau i fusnesau a chyfleusterau technoleg sydd ar gael i entrepreneuriaid ledled Cymru.

Fersiwn cyntaf o'r glasbrint

Mae’r glasbrint yn caniatáu i entrepreneuriaid ar bob lefel weld y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt a chysylltu â nhw, a fydd yn helpu i wneud y tirlun entrepreneuraidd yn fwy gweledol ac yn haws ei ddefnyddio.

Chwarae eich rhan

Mae'r glasbrint hwn yn ddogfen fyw ac rydyn ni wedi ymrwymo i’w ddatblygu wrth i'r ecosystem dyfu. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw wasanaethau nad ydynt wedi’u cynnwys ar hyn o bryd, cyfrannwch at greu ecosystem weledol drwy roi gwybod i ni.

Cliciwch yma i anfon e-bost at ein tîm.

 

Cliciwch yma i weld y glasbrint.