Cyfres Cyfleoedd Di-rif Ddigidol yn Lansio yng Nghanolbarth Cymru

Bydd Mark Williams, enillydd medal aur Paralympaidd, perchennog busnes ac enillydd Gwobr Ysbryd Entrepreneuraidd 2020, yn siarad yn ystod y sesiwn gyntaf.

 

Mae cyfres ddigidol o siaradwyr, sydd â'r nod o hyrwyddo hygyrchedd a chynhwysiant drwy'r celfyddydau a diwydiannau creadigol, wedi lansio ym Mhowys.

Mark Williams, Founder of Limb-Art

Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewyddwedi gweithio gyda Celf-Able, grŵp amrywiol o artistiaid ym Mhowys, i lansio'r gyfres newydd hon o weithdai ar-lein. Mae Celf-Able yn darparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd, lleihau ymdeimlad o unigedd a dathlu'r diwydiant anabl. Mae'r grŵp yn agored i bawb.

Yn y sesiwn gyntaf, ddydd Gwener 18 Rhagfyr, byddwn yn canolbwyntio ar y celfyddydau a chyflogaeth, gan edrych yn benodol ar oresgyn rhwystrau, mewn bywyd a busnes, i gychwyn ar daith entrepreneuraidd. Bydd hefyd yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio sgiliau creadigol fel llwybr posib at gyflogaeth. Bydd yr Hwb yn croesawu Mark Williams, nofiwr Paralympaidd, enillydd medal aur ac entrepreneur llwyddiannus, i rannu ei stori.

 

Mae Mark yn Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymruac yn sylfaenydd LIMB-art, cwmni gweithgynhyrchu sy'n creu gorchuddion diddorol ar gyfer coesau prosthetig. Bydd yn trafod ei daith ysbrydoledig o golli ei goes i fod yn berchennog busnes llwyddiannus.

Dywedodd Mark: "Yn y byd sydd ohoni heddiw, lle mae rheolau a rheoliadau'n newid o hyd, a lle rydym yn wynebu heriau newydd, mae'n hawdd i bobl beidio â dod o hyd i'w llwybr i fynd ymlaen a rhoi'r ffidil yn y to. Drwy rannu'r gwersi rwyf wedi'u dysgu mewn bywyd, a'r heriau rwyf wedi'u goresgyn, rwy'n gobeithio helpu pobl i ddod o hyd i'w llwybrau a gwireddu eu breuddwydion.”

 

Bydd Celf-Able, grŵp o artistiaid abl ac anabl, yn ymuno â'r sesiwn. Bydd Sue Patch, Cyfarwyddwr a Chadeirydd, yn trafod pwysigrwydd y gwaith maen nhw'n ei wneud i ymdrin ag unigrwydd, a sut mae celf wedi helpu nifer o bobl anabl ym Mhowys i ddatblygu sgiliau newydd a bod yn rhan o rywbeth.

 

"Mae cyflwyno grŵp fel hyn mor bwysig i Ganolbarth Cymru, ac mae croeso i bawb ymuno â ni. Pwrpas y digwyddiad hwn yw hyrwyddo cynhwysiant, amrywiaeth ac ysgogi'r unigolion hynny na wyddant yn iawn pa lwybr gyrfaol yr hoffent ei ddilyn. Rydym yn bwriadu parhau â'r gyfres yn fuan yn 2021, ac rydym yn gobeithio cynnal arddangosfa gelf ar ddiwedd y gyfres", meddai Holly Jones, Rheolwr Hwb Ffocws Menter y Drenewydd. 

 

Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd yn fan arloesol i ddeor a chynhyrchu busnesau newydd sy'n tyfu wedi'i leoli yn Royal Welsh Warehouse, y Drenewydd, Powys. Mae Hwb Ffocws Menter y Drenewydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Mae llefydd ar y sesiwn yn cael eu hariannu'n llawn, a gallwch gofrestru drwy ddilyn y ddolen hon: https://bit.ly/37B2nSW